Yn ôl i newyddion

Tyfu Cymuned Llan-ffwyst

Mae pentref Llan-ffwyst yn swatio ar gyrion Y Fenni ac mae’n gartref i The Grove, sef datblygiad tai newydd a gafodd anadl einioes diolch i Candleston, is-gwmni Cartrefi Melin. Gwireddwyd cam cychwynnol y datblygiad, sy’n cynnwys 42 tŷ coeth, diolch i gyllid o £5 miliwn gan Principality Commercial, sef cangen o Gymdeithas Adeiladu’r Principality.

Ysgrifennwyd gan Will

26 Medi, 2023

A computer generated image of a new housing development

Mewn tirwedd ffrwythlon tu hwnt, mae’r pentref darluniadol yn Sir Fynwy yn gynfas ar gyfer y gymuned newydd hon. Wedi cwblhau pob un o’r tri cham, bydd gan The Grove 69 cartref i’w gwerthu ar y farchnad agored, a bydd yn gymwys ar gyfer cynllun Cymorth i Brynu - Cymru. Fe fydd 37 cartref ychwanegol ar gael fel tai fforddiadwy. Gyda’i gilydd, bydd yr elfennau hyn yn gymorth i roi sylw i’r prinder cartrefi yn yr ardal sydd wedi bod yn ddifrifol.

Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd, ac mae hynny’n sicr yn wir yn The Grove. Yn ogystal â chynnig dewis o ddyluniadau gwahanol, mae’r cartrefi sy’n rhan o’r datblygiad yn cynnwys tai teras, tai pâr a thai sengl, ac felly mae yna ddigon o ddewis i’r rheiny sydd am brynu cartref. Mae prisiau’r tai sydd ar werth ar y farchnad agored ar y safle yn dechrau ar £240,000.

Roedd Scott Rooks, Cyfarwyddwr Masnachol Candleston Homes, yn falch iawn o berthynas newydd Candleston â Principality Commercial a’r hyn sydd wedi deillio o’r berthynas honno yn Llan-ffwyst. Meddai: "Dyma ein dêl gyllido gyntaf gyda Principality Commercial, ac er bod yr amodau economaidd yn heriol ar adegau, aethom ati i weithio mewn partneriaeth i helpu i wireddu’r cynllun.

Mae gweld y trigolion yn symud i’w cartrefi newydd wedi bod mor hyfryd, ac edrychwn ymlaen at gwblhau’r ail gam a’r trydydd cam dros y 12 mis nesaf. Mae’n bleser gweithio gyda phartner cyllido sydd â’r un ethos o greu cartrefi a meithrin cymunedau.

Scott Rooks — Candleston

Mynegodd Jan Quarrington, Rheolwr Tai Cymdeithasol Principality Commercial, ei brwdfrydedd hi ynghylch y bartneriaeth drawsnewidiol hon hefyd. Meddai: "Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cefnogi datblygiad newydd Candleston [ger] Y Fenni.

Fel sefydliad sy’n eiddo i aelodau, mae helpu pobl i ffynnu yn eu cartrefi wrth galon ein gwaith, ac mae The Grove yn cefnogi hynny trwy ddarparu cartrefi newydd fforddiadwy a chartrefi newydd ar y farchnad agored ar gyfer cymunedau yn [ardal] Y Fenni.

Jan Quarrington — Principality

Edrychwn ymlaen at rannu diweddariadau pellach am The Grove wrth i gam dau a cham tri ddwyn ffrwyth.

Yn ôl i newyddion