Yn ôl i newyddion

Gweinidog yn nodi ein hadduned i drigolion

Mynychodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, lansiad ein Gweledigaeth, gan siarad gyda thrigolion, staff a rhanddeiliaid ynglŷn â sut rydym yn addunedu i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau.

Ysgrifennwyd gan Fiona

02 Mai, 2018

Gweinidog yn nodi ein hadduned i drigolion
Mynychodd y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, lansiad ein Gweledigaeth, gan siarad gyda thrigolion, staff a rhanddeiliaid ynglŷn â sut rydym yn addunedu i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau.

Rydym wedi ymrwymo i greu cymunedau sy’n ffynnu, diwylliant gwych, gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar drigolion a rhaglen o ddatblygiadau newydd. Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wrando ar a chysylltu gyda thrigolion a’r cymunedau lle maent yn byw a byddwn ond yn gwneud y pethau hynny sydd o fudd i’r cymunedau a’r trigolion hynny.

Meddai Natalie Gardner, preswylydd am fwy nag 20 mlynedd ac wedi ei phenodi yn Gadeirydd ein Panel Trigolion yn ddiweddar: “Ymunais â’r panel i wneud gwahaniaeth i’n trigolion a’r gymuned gyfan. Mae’r weledigaeth newydd yn cefnogi ein gwaith yn llwyr. Roedd yn bleser cyfarfod â’r gweinidog a chlywed ei hymrwymiad i dai cymdeithasol ac adeiladu tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn siarad â thrigolion eraill a medrwn weld dyfodol cyffrous, llawn cyfle.”

Gyda thargedau ar gyfer cynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael, gwasanaeth cynghori penodol i helpu trigolion yn ôl i’r gwaith, rhaglen bartneriaeth gydag ysgolion lleol a gwasanaethau cynnal a chadw newydd, mae’r dyfodol yn sicr yn edrych yn ddisglair.

Meddai’r Gweinidog Rebecca Evans: “Rwy’n ymroddedig i gyflenwi targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o 20,000 yn ystod cyfnod hwn y Cynulliad, ac mae gweithio gyda chymdeithasau tai fel Melin yn allweddol yn hyn o beth. Mae’n galonogol iawn bod gan gymdeithas dai Melin darged o 1,000 o gartrefi newydd fel rhan o’r weledigaeth sy’n cael ei lansio heddiw.

“Mae tai yn cael effaith anferth ar fywydau pobl, ac mae gweledigaeth Melin i greu cyfleoedd i bobl yn un rwy’n ei rhannu.”

Ychwanegodd ein Prif Weithredwr Paula Kennedy: “Rydym yma i ddarparu cartrefi, ond rydym hefyd yn angerddol ynglŷn â chreu cyfleoedd i bobl a chymunedau er mwyn iddyn nhw ffynnu. Mae cael y Gweinidog Tai ac Adfywio yma heddiw i weld ein hangerdd tuag at dai, a’r heriau rydym yn eu hwynebu, wedi bod yn wych. Mae rhai o’n heriau’n cael eu rhannu gan fudiadau eraill sydd, fel ni, yn tyfu ac arallgyfeirio, rhai gyda’r sector tai yng Nghymru, rhai gyda’r sector tai yn y DU.”

Yn ôl i newyddion