Yn ôl i newyddion

Gwobrau Balchder Gwent 2017

Mae cymaint o bobl sy’n gweithio mor galed, sy’n gwirfoddoli’n ddiflino, sy’n ofalwyr, yn codi arian neu sydd wedi wynebu gofid gyda dewrder mawr. Mae’r South Wales Argus yn cydnabod y bobl hyn yn eu gwobrau Balchder Gwent 2017.

Ysgrifennwyd gan Valentino

21 Rhag, 2016

Gwobrau Balchder Gwent 2017
Mae cymaint o bobl sy’n gweithio mor galed, sy’n gwirfoddoli’n ddiflino, sy’n ofalwyr, yn codi arian neu sydd wedi wynebu gofid gyda dewrder mawr. Mae’r South Wales Argus yn cydnabod y bobl hyn yn eu gwobrau Balchder Gwent 2017.

Meddai golygydd y South Wales Argus Nicole Garnon: "Rydym yn falch o lansio’r gwobrau hyn i gydnabod a gwobrwyo’r arwyr anhysbys hyn yn ein cymuned. Rydym yn aml yn rhedeg straeon am unigolion megis Jackie Lewis o Gasnewydd sydd wedi codi degau o filoedd o bunnau ar gyfer Hosbis Dewi Sant, neu’r cyn-filwr Ron Jones sef gwerthwr pabïau hynaf y wlad, yn 99 oed. Ond rydym eisiau mynd ychydig ymhellach na dim ond adrodd am straeon hynod fel hyn, ac eisiau gwobrwyo ymdrechion pobl y mae eu hymrwymiad a’u hymroddiad yn gyrru ein cymunedau."

Mae llawer o gategorïau gwahanol, gan gynnwys gwobr Arwr Lleol, gwobr Gwirfoddolwr a’r wobr rydyn ni yn falch o’i noddi, gwobr yr Amgylchedd. Mae mwy o wybodaeth am y gwobrau hyn a sut i enwebu rhywun rydych chi’n eu hadnabod ar wefan y South Wales Argus.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Ionawr 23, 2017, gyda phanel beirniadu yn dewis yr enillwyr ym mis Chwefror, ac yna bydd seremoni ym mis Mawrth yn y Coldra Court Hotel ger Celtic Manor.

Yn ôl i newyddion