Yn ôl i newyddion

Pen-blwydd Hapus Zest!

Rydym yn dathlu 10 mlynedd o’n menter Iechyd a Lles arobryn – Zest!

Ysgrifennwyd gan Fiona

17 Medi, 2021

Zest 10th birthday illustration

Pam greon ni Zest

Roedd gyda ni angerdd a brwdfrydedd i wella iechyd a lles ein staff. Fe ddechreuon ni’n fach ond roedd gyda ni uchelgeisiau mawr, felly daeth grŵp o staff ac aelodau’r Bwrdd ynghyd i ffurfio grŵp Zest sydd wedi bod yn cwrdd pob mis ers hynny i gynllunio’r holl weithgareddau i fod yn llysgenhadon i’r grŵp.

Sut rydym ni’n dathlu

Mae Zest yn trefnu gweithgareddau i staff gymryd rhan ynddyn nhw trwy gydol y flwyddyn, ond y mis Medi yma, rydym wedi cynyddu’r hwyl er mwyn dathlu 10fed pen-blwydd Zest.

Mae gyda ni amrywiaeth o ddosbarthiadau celf a chrefft, gweithdai coginio, tylino reiki, archwiliadau iechyd bach, a sesiwn gyda Dr Bike bel gall staff ddod â’u beiciau i’w gwirio a gweithdai rheoli’r mislif.

“Roedd Zest yn wych pan oeddem ni yn y cyfnod clo, naill ai ar gyfnod o seibiant neu’n gweithio o gartref ac roedd gweithgareddau ar-lein fel y sesiynau crefft yn wych ar gyfer lles meddyliol.”

Rydym yn ymgymryd â thaith gerdded noddedig i Ben y Fan pan fydd staff a’u teuluoedd yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd tri aelod o’n staff, gan gynnwys ein Prif Weithredwr, Paula, yn rhedeg hanner marathon Abertawe fis Hydref i helpu i gadw hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru i hedfan ac yn achub bywydau.

Byddwn yn trefnu digwyddiad mawr Zest Fest y flwyddyn nesaf pan fydd staff yn cael bore o wyliau ac yn cael brecwast iach a diodydd trwy’r bore, dosbarthiadau ymarfer corff, badminton, cestyll sbonc, tenis bwrdd, sboncen, celf a chrefft a mwy.

“Cadwch ymlaen i wneud hyn i gyd, Zest.”

Dros y 18 mis anodd diwethaf, mae Zest wedi bod yn cefnogi staff gyda; diweddariadau iechyd a lles, tanysgrifiad i Headspace – ap myfyrdod a chwsg, dosbarthiadau ymarfer corff wythnosol am ddim, gweithdai maeth, boreau coffi rhithwir, blychau i bob cyflogai, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, sgwrs gan Nigel Owens MBE am iechyd meddwl, gweithdai canu a mwy.

Mae gyda ni gynllun cydnabyddiaeth staff, ble gall staff ddiolch i’w gilydd - cynllun Diolch. Ers y cyfnod clo, gallwch weld cymaint o deulu yw Melin gyda phawb yn cydweithio i helpu eraill. Mae’r nifer o wobrau Diolch wedi cynyddu. Gall staff ddewis o blith rhoi i’n helusen am y flwyddyn, plannu coed neu gael bocs o siocledi.

“Rwy’n elwa o’r cyngor, gwybodaeth a’r gweithgareddau a digwyddiadau hwyliog i’w mynychu.”

Rydym yn credu bod gan bob cyflogwr gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn gofalu am eu staff yn feddyliol ac yn gorfforol. Ein hethos yw – dyma’r peth iawn i wneud. ‘Allwn ni ddim aros i weld beth sydd gan Zest i’w gynnig dros y 10 mlynedd nesaf.

“Mae Zest yn danfon e-byst i’n hannog, ac mae’r gweithgareddau’n cynnal fy lles meddyliol a chorfforol.”

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld