Yn ôl i newyddion

Hel Atgofion

Diolch i Zest!, grŵp iechyd a lles Melin a gwirfoddolwyr o Wasanaeth Amgueddfa Sir Fynwy, fe wnaeth trigolion Victoria Court, Y Fenni fwynhau cyfle i hel atgofion.

Ysgrifennwyd gan Sam

28 Chwef, 2018

Hel Atgofion
Fe wnaethant gymryd rhan mewn sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar ffasiwn y 50au. Cyflwynwyd y sesiwn gan yr amgueddfa a thalwyd amdani gan Zest! Daeth y gwirfoddolwyr â bocs o eitemau ffasiwn o'r cyfnod gan gynnwys bagiau llaw, culottes a photeli o bersawr. Cafodd eitemau eu pasio o gwmpas y grŵp a sbardunwyd drafodaethau wrth i'r atgofion lifo yn ôl.
Daeth Mrs Keen, cyn-athrawes Gwaith Crefft â model o gegin yn y 1950au gyda hi, yn cynnwys platiau, tegell copr a phopty haearn y cyfan oll wedi eu gwneud â'u dwylo ei hun. Daeth hefyd â llyfr coginio o 1902 i'w rhoi yn nwylo'r gwasanaeth amgueddfa. Dywedodd: "Dydw i ddim y person mwyaf cymdeithasol. Mae hyn wedi bod yn dda - mae'n fy helpu i ddechrau siarad."
Un o’r cymhorthion mwyaf i ysgogi’r cof oedd y poteli persawr a gafodd eu pasio o gwmpas. Cafodd Brenda Sorby un chwiff o’r persawr eau de cologne 4711 ac ar unwaith fe wnaeth ei hatgoffa o’r hen fenyw a arferai fyw y drws nesaf iddi flynyddoedd yn ôl.
Meddai Laura Benver, rheolwr y cynllun: “Rydym wedi cynnal dau neu dri o’r sesiynau hyn ac maent yn boblogaidd dros ben. Mae’r bobl nad ydynt fel arfer yn siarad, yn dechrau bywiogi ac mae hynny’n hyfryd.”

Yn ôl i newyddion