Yn ôl i newyddion

Help i fam sy’n angerddol dros ei chymuned

Mae mam ifanc o Gwmbrân wedi gofyn am help i roi trefn ar ei stryd

Ysgrifennwyd gan Sam

12 Meh, 2018

Help i fam sy’n angerddol dros ei chymuned

Rydym wedi camu i mewn i helpu un fam sy'n angerddol dros ei chymuned i wneud gwahaniaeth yn ei stryd. Mae Adele Purchase wedi byw yn Woodland Street, Cwmbrân ers tair blynedd ac yn ddiweddar, cysylltodd â'n tîm cymunedau i gael help i lanhau a rhoi cyfle i bawb ar y stryd waredu ar yr annibendod yn eu gerddi. Ar ôl sgwrsio gyda'n Swyddog Cymunedau, roedd hi'n frwdfrydig iawn i ddechrau ar bethau. Felly dyma dîm o staff yn estyn am eu cotiau lliwgar a'u hesgidiau synhwyrol i helpu Adele a'i ffrindiau i lenwi dau sgip gydag eitemau diangen.
Dywedodd Adele: "Mae gennym stryd hyfryd, mae'r holl gymdogion yn gyfeillgar. Rydym yn fath o stryd sydd yn benthyg cwpan o siwgr. Mae'n wych bod Melin wedi dod â thîm i'n helpu ni. Mae'n dda i'r plant ar y stryd weld bod pawb am gadw'r lle yn lân ac yn daclus.”

Yn ôl i newyddion