Yn ôl i newyddion

Helpu ein preswylwyr gyda chyflogaeth

Cawsom ymateb anhygoel i'r straeon am gyflogaeth y buom yn eu rhannu gyda chi dros yr haf, ac felly roedden ni eisiau amlygu mwy o breswylwyr Melin sydd wedi dod ymlaen yn aruthrol yn eu bywydau ac wedi gwneud cynnydd gwych yn eu gyrfaoedd a'u datblygiad proffesiynol. Efallai y gallan nhw eich ysbrydoli chi i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa...

Ysgrifennwyd gan Will

28 Medi, 2022

Two women holding shopping vouchers

Sharon Pullin

O: Dorfaen

Cefndir: Mae Sharon yn fam sengl sy'n byw yng Nghwmbrân. Roedd Sharon heb fod yn gweithio ers nifer o flynyddoedd oherwydd cyflyrau iechyd difrifol, ond nawr roedd hi'n barod i fynd yn ôl i'r gwaith. Roedd hyder Sharon yn isel am ei bod wedi bod allan o'r gweithle. Er mai ym maes manwerthu yr oedd profiad gwaith blaenorol Sharon, roedd hi'n barod i droi ei llaw at unrhyw fath o swydd ac roedd ganddi ddiddordeb yn y sector gofal yn arbennig.

Sut yr aethom ati i’w helpu: Aethom ati i gofrestru Sharon ar gwrs cyflwyniad i ofal cymdeithasol a chafodd flas ar weithio yn y sector gofal. Yna, cafodd Sharon gymorth gennym i geisio am rôl yn y GIG. Roedd yn broses ddigon anodd gan fod y cyfan yn ddigidol oherwydd y pandemig. Yna, aethom ati i helpu Sharon gyda'r gwaith papur a oedd yn ofynnol ar gyfer y gwiriadau hunaniaeth a gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Cefnogwyd Sharon hefyd gyda dillad newydd ar gyfer y gwaith a chostau teithio ar gyfer ei mis cyntaf yn y gwaith. Roedd hyn yn ogystal â nifer o gyfarfodydd cefnogi i helpu Sharon i chwilio am waith.

Ble maen nhw nawr: Llwyddodd Sharon yn ei hymgais i chwilio am waith a daeth yn Gynorthwyydd Arlwyo gyda'r GIG. Roedd hwn yn hwb aruthrol i'w hyder a'i hiechyd meddwl. Mae ei sefyllfa ariannol yn well ac mae hefyd wedi colli pwysau am ei bod yn fwy gweithgar.

Mae Dafydd a Paula o Melin yn wych! Byddwn i'n eu hargymell gan eu bod nhw'n mynd allan o'u ffordd i'ch helpu. Maen nhw hefyd yn gwneud i chi gredu eich bod chi'n gallu cyflawni unrhyw beth yn y byd! Diolch o waelod calon am fy helpu. Dwi gymaint yn well fy myd yn ariannol ac yn llawer hapusach nawr fy mod i'n gweithio.

Sharon Pullin

Joanne Booth

O: Gasnewydd

Cefndir: Roedd Joanne yn fyfyriwr llawn-amser a chanddi gyfrifoldebau gofal plant. Roedd arni angen gwaith ar ddiwedd ei blwyddyn academaidd oherwydd, fel myfyriwr, nid oedd ganddi hawl i unrhyw fudd-daliadau.

Sut yr aethom ati i’w helpu: Aethom ati i helpu Joanne i chwilio am waith ac i baratoi at ei chyfweliadau. Buom hefyd yn helpu Joanne gyda thalebau bwyd tra'i bod yn aros i gael ei chyflog am ei mis cyntaf o waith.

Ble maen nhw nawr: Llwyddodd Joanne i sicrhau swydd lawn-amser gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yng Nghasnewydd a nawr mae mewn sefyllfa lawer mwy cynaliadwy yn ariannol nag oedd hi yn flaenorol.

Dwi'n hynod o ddiolchgar am yr help a gefais gan y tîm cyflogaeth oherwydd heb eu cymorth amserol nhw, byddai wedi bod yn anodd iawn i mi wrth i mi ddechrau gweithio.

Joanne Booth

Chanel Williams

O: Sir Fynwy

Cefndir: Mae gan Chanel ddau o blant a daeth yn ddi-waith ar ôl geni ei hail blentyn. Roedd ganddi deulu ifanc ac roedd yn ynysig oherwydd y pandemig ac felly roedd dod o hyd i waith yn heriol i Chanel.

Sut yr aethom ati i’w helpu: Aethom ati i roi help i Chanel gyda'i CV a phroses cyfweliadau. Cafodd gymorth gennym hefyd ar ffurf talebau siopa a chymorth gyda'i chostau teithio am y mis cyntaf, er mwyn helpu Chanel i gyrraedd ei diwrnod cyflog cyntaf gyda chyflogwr newydd.

Ble maen nhw nawr: Llwyddodd Chanel i gael swydd fel gweinyddydd sifiliaid gyda Heddlu Gwent. Mae ei hyder bellach wedi cynyddu ac mae ganddi rôl gyda chyflogwr gwych ac amserlen sy'n gweithio iddi hi a'i theulu.

Roedd cefnogaeth Melin yn gymorth mawr oherwydd y costau tanwydd ar gyfer teithio i'r gwaith ar hyn o bryd. Doeddwn i ddim yn credu y byddwn i'n gymwys i gael unrhyw gymorth gan nad ydyn ni’n derbyn unrhyw fudd-daliadau, ac felly rydyn ni'n gwerthfawrogi cymorth Melin yn fawr iawn.

Chanel Williams

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld