Yn ôl i newyddion

HomeSwapper

Angen mwy o le? Eisiau symud i dref wahanol? Angen cartref llai?

Ysgrifennwyd gan Fiona

20 Hyd, 2017

HomeSwapper
Angen mwy o le?

Eisiau symud i dref wahanol?

Angen cartref llai?

Yna, efallai mai HomeSwapper yw’r ateb i chi. Dyma’r gwasanaeth cyfnewid cenedlaethol mwyaf i drigolion gyfnewid cartrefi yn lleol ac yn genedlaethol!

Mae’n syml i’w ddefnyddio – medrwch lawrlwytho’r ap symudol am ddim neu fynd i wefan HomeSwapper

Rhai awgrymiadau, er mwyn i chi gael y gorau wrth ddefnyddio HomeSwapper

Gwnewch restr o bethau ‘y mae’n rhaid i chi eu cael’ a ‘phethau yr hoffech eu cael’ ar gyfer eich cartref newydd. Fel hyn, ni fyddwch yn cael eich perswadio gan addurniadau/dodrefn.
Defnyddiwch y blwch testun ychwanegol ar eich hysbyseb i adael i bobl eraill wybod beth ydych chi ei eisiau, ynghyd â’r hyn rydych yn ei gynnig. Gall hyn gyflymu’r broses.
Edrychwch ar eich cyfrif yn rheolaidd
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol; mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar HomeSwapper ar Facebook a Twitter bob amser.
Sicrhewch fod eich rhent wedi ei dalu. Gall ôl-ddyledion arwain at eich landlord yn gwrthod i chi symud neu achosi oedi.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cau eich cyfrif ar ôl i chi gyfnewid, i osgoi derbyn negeseuon pellach gan HomeSwapper a defnyddwyr eraill.
Hwyl i chi wrth chwilio, a phob lwc gyda’r cyfnewid!

Yn ôl i newyddion