Yn ôl i newyddion

Hyfforddiant TG gyda gwahaniaeth

Mewn cydweithrediad â’r cwmni technoleg fyd enwog CISCO, rydym yn cyflwyno hyfforddiant TG gyda gwahaniaeth. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi’r holl sgiliau allweddol hyn i’r cyfranogwyr, yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnoleg gyfrifiadurol.

Ysgrifennwyd gan Valentino

27 Mai, 2016

Hyfforddiant TG gyda gwahaniaeth
Mae gennym gyfle hyfforddi newydd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymhwyster sy'n gallu rhoi hwb go iawn i’ch cyflogadwyedd. Rydym wedi bod yn siarad â chyflogwyr lleol ac mae rhai o'r sgiliau pwysig y maent yn chwilio amdanynt mewn recriwtiaid newydd yn cynnwys:

• Sgiliau cyfathrebu da
• Meddwl yn rhesymegol
• Gweithio fel tîm
• Datrys problemau

Mewn cydweithrediad â’r cwmni technoleg fyd enwog CISCO, rydym yn cyflwyno hyfforddiant TG gyda gwahaniaeth. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi’r holl sgiliau allweddol hyn i’r cyfranogwyr, yn ogystal â dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnoleg gyfrifiadurol.

Efallai eich bod yn edrych i fynd yn ôl i'r gwaith ar ôl cymryd amser allan, yn edrych i ddechrau eich gyrfa gyda'r sgiliau gorau posibl neu eisiau cadw eich CV mor gystadleuol â phosibl ar gyfer gweithio yn yr amgylchedd swyddfa fodern. Yr hyfforddiant hwn yw'r cam cyntaf delfrydol tuag at reoli eich gyrfa. Bydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf Torfaen, ac mae'n cynnwys darllen personol, labordai ac asesiadau yn ein Hwb Digidol ym Mlaenafon. Mae'r oriau'n hyblyg er mwyn i chi ddewis pryd i'w gwblhau a bydd hyfforddwyr ardystiedig Melin yno i ddarparu cymorth ymarferol, hwyluso dysgu a dilyn cynnydd myfyrwyr.

Mae’r rownd gyntaf o hyfforddiant yn rhad ac am ddim, ond mae llefydd yn gyfyngedig. Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen gais yma.

Yn ôl i newyddion