Yn ôl i newyddion

Roedd yn dda bod yn ôl.

Roedd yr haul yn tywynnu wrth i ni gynnal ein chweched digwyddiad Zest yn y Parc, y cyntaf ers 2019 ac roeddem mor falch o fod yn ôl. Rydym yn meddwl bod ein hymwelwyr yn falch hefyd, wrth i gannoedd o bobl ymuno gyda ni ar gyfer hwyl-ddydd am ddim i’r teulu ar y Diwrnod Chwarae, y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Ysgrifennwyd gan Fiona

04 Awst, 2022

Our Melin Team with partners at Zest in the Park

Cawsom gefnogaeth gan ein partneriaid o’r Sir yn y Gymuned a Chlwb Rygbi’r Dreigiau a ddarparodd adloniant i’r ymwelwyr gyda her sgorio gôl. Llongyfarchiadau mawr i Kian a enillodd, gan dderbyn pêl droed wedi ei llofnodi a thocynnau i gêm rygbi’r Dreigiau.

Ymunodd Oren ein masgot Zest yn yr hwyl ac fe wnaeth sgorio gôl hefyd – a fydd Oren yn cael gwahoddiad i chwarae i dîm sirol Casnewydd yn fuan? Gobeithio!

Ein Masgot Oren yn rhoi cynnig arni ar gyfer y Sir yn y Gymuned

Roedd nifer o’n stondinau yn Zest yn y Parc, ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a daeth Datblygu Chwaraeon Torfaen â’u wal ddringo gyda nhw. Roedd llawer o adloniant gyda chastell sboncio, peintio wynebau gydag Irene; roedd Petrena yn ymlacio pobl gyda sesiynau tylino; roedd Shaun y dewin yn synnu pobl gyda hud a lledrith ac roedd anifeiliaid balŵn gan Amanda yn ffefryn sicr.

Roedd y plant yn mwynhau cael peintio eu wynebau a chael anifeiliaid balŵn i fynd gartref gyda nhw

Ymunodd Fferm Gymunedol Dôl Werdd gyda ni gan ddod â nifer o anifeiliaid i bobl eu cyfarfod, ac roedd Hyfforddiant Beicio Cymru yno i sicrhau bod beiciau ymwelwyr mewn cyflwr gwych gyda sesiwn gwasanaethu am ddim.

Dywedodd ymwelwyr pa mor wych oedd y digwyddiad, y ffaith bod popeth am ddim yn golygu cymaint i’w teuluoedd yn y cyfnod anodd yma, yn enwedig ffrwythau a nwyddau am ddim a ddarparwyd gennym ni.

Un o drigolion Melin, Natasha

Ymunodd Natasha, un o drigolion Melin am fwy na 10 mlynedd, gyda ni, ynghyd â Benjamin, tair wythnos oed, efallai un o’r cyfranogwyr ieuengaf yn Zest yn y Parc, a mor giwt.

Mae gennyf bedwar o blant ac mae hwn yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan. Mae’n wych bod Melin yn gwneud hyn i bawb, ac mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth.

Mae gennyf bedwar o blant ac mae hwn yn ddigwyddiad i’r teulu cyfan. Mae’n wych bod Melin yn gwneud hyn i bawb, ac mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth.

Un o drigolion Melin, Natasha
Benjamin bach a ymunodd yn yr hwyl, yn dair wythnos oed
Benjamin bach a ymunodd yn yr hwyl, yn dair wythnos oed

Mwy o ffotograffau o Zest yn y Parc

Roedd bod yn ôl o’r diwedd ar ôl tair blynedd (oherwydd y pandemig) yn deimlad gwych. Mae staff Melin a’n partneriaid yn gwneud y digwyddiad yma yn un mor arbennig; gweld pawb yn mwynhau heddiw a chael cymaint o hwyl yw’r rheswm pam rydym yn cynnal y digwyddiadau yma. Nawr, mae cefnogi’r gymuned leol gyda hwyl am ddim i deuluoedd mor bwysig. Byddwn yn dechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y man, a bydd gennym lawer o syniadau newydd i wneud y digwyddiad yn un mwy a gwell fyth.

Fiona Williams, Principal Communications Officer
Rydym yn cynnal Zest yn y Parc ar Ddiwrnod Chwarae, sy’n ddiwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst. Felly, nodwch ddyddiad digwyddiad y flwyddyn nesaf yn eich dyddiadur – 2il Awst 2023 – allwn ni ddim aros.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld