Yn ôl i newyddion

Rhoi help llaw

Cafodd Paula Kennedy a Teri Ireland y pleser o ymweld â ‘Helping Hands R-Us’, banc bwyd lleol sy’n cynorthwyo cymunedau yn ardaloedd Y Dafarn Newydd, Pontymoel a Phenygarn yn Nhorfaen. Wedi ei sefydlu gan dri ffrind, Paul, Kyle a Jan i gynorthwyo cymaint o bobl ag y gallent, mae’r banc bwyd yn dibynnu’n llwyr ar ewyllys da a rhoddion pobl eraill.

Ysgrifennwyd gan Fiona

26 Mai, 2022

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Carol, Kyle, Paul, Teri, Paul, Jan a Paula

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Carol, Kyle, Paul, Teri, Paul, Jan a Paula.

Meddai Jan wrthym “Rydym oll yn angerddol ynglŷn â helpu pobl eraill. Gwelsom bod angen ac roeddem eisiau gwneud rhywbeth i roi yn ôl i eraill. Tyfodd ein syniad o’r fan honno. Heb y cymorth gan Melin yn caniatáu i ni weithredu o un o’u hadeiladu ym Mhont-y-pŵl, ni fuasem lle rydyn ni heddiw. Rydym mor ddiolchgar”.

Mae Helping Hands R-Us yn cynorthwyo gyda pharseli bwyd, ond maent hefyd yn darparu dillad babi, teganau ac offer i deuluoedd. Mae’r tîm hyd yn oed yn darparu ‘pecynnau pryd bwyd’ sy’n cynnwys popeth rydych ei angen i wneud pryd bwyd maethlon, a chardiau rysáit.

Esboniodd y tîm eu bod wir angen rhoddion o esgidiau a dillad ar gyfer plant oed ysgol. Os gallwch roi rhywbeth neu os ydych angen unrhyw gymorth, mae ‘Helping Hands’ yno i chi. Gallwch weld sut i gyfrannu neu ofyn am gymorth drwy fynd i’w gwefan neu dudalen Facebook.

Mae staff Melin wedi bod yn casglu rhoddion bwyd, teganau a dillad babis sydd wedi eu rhoi i Helping Hands R-Us. Bydd staff yn parhau i gasglu nwyddau mewn tuniau i gefnogi’r fenter ymhellach.

Heb y cymorth gan Melin yn caniatáu i ni weithredu o un o’u hadeiladu ym Mhont-y-pŵl, ni fuasem lle rydyn ni heddiw. Rydym mor ddiolchgar.

Jan — Helping Hands
Bwyd yn y banc bwyd
Peth o’r bwydydd tun sydd ar gael

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin: “Mae’n anrhydedd gallu helpu ‘Helping Hands R-Us’ yn eu gwaith o gefnogi’r gymuned leol yn Nhorfaen. Mae Paul, Kyle, Jan, Paul a Carol yn gwneud rhywbeth anhygoel drwy roi o’u hamser i sicrhau nad oes unrhyw deulu lleol yn mynd heb y pethau maent eu hangen. Roeddwn yn edmygu’n fawr sut maent wedi trawsnewid y lle a’r ymroddiad gan bob un o’r gwirfoddolwyr.

Mae’r argyfwng costau byw wedi amlygu’r anawsterau y mae llawer o deuluoedd yn eu wynebu ledled y wlad, ac rwy’n falch bod Melin a’n staff wedi gallu gwneud gwahaniaeth.

Paula Kennedy — Cartrefi Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld