Yn ôl i newyddion

Partneriaeth Melin Homes a Choleg Gwent: Grymuso dysgwyr

Mae Cartrefi Melin wedi ffurfio partneriaeth lwyddiannus gyda Choleg Anabledd Dysgu Coleg Gwent yng Nghwmbrân. Mae’r cydweithrediad yma wedi arwain at lawer o brofiadau gwych a chanlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr a thrigolion fel ei gilydd.

Ysgrifennwyd gan Will

08 Meh, 2023

Grwp o bobl ifanc mewn gardd

Dechreuodd y bartneriaeth pan gafodd Melin gais am help gyda phlanhigion a hadau ar gyfer gardd to Coleg Gwent. Arweiniodd y cysylltiad cychwynnol yma at gydweithredu pellach, gan gynnwys paentio meinciau y tu allan i swyddfeydd Melin yn Nhŷ’r Felin llynedd.

Yn gynharach eleni, daeth Coleg Gwent at Melin ar gyfer cyfleoedd profiad gwaith pellach. Ers hynny, mae’r dysgwyr wedi rhagori mewn garddio a phaentio meinciau yn Nhŷ Cae Nant yng Nghwmbrân, yn ogystal â thrin y gerddi yn Castle Court ym Mrynbuga. Mae eu gwaith eithriadol wedi ennyn clod uchel, gyda rheolwyr cynlluniau eraill yn gofyn am eu cymorth mewn cynlluniau tai eraill. Mae’r dysgwyr hefyd wedi cael cais i ddod yn ôl i Castle Court i wneud gwaith garddio yn y dyfodol, sy’n dangos cymaint mae’r trigolion yno yn gwerthfawrogi eu gwaith.

Merch yn garddio
Mae'r ardd yn Castle Court yn edrych yn wych nawr

Yn ogystal â’u cyfraniadau corfforol, mae’r dysgwyr hefyd wedi meithrin cysylltiadau ystyrlon gyda thrigolion Melin. Daethon nhw’n ddiweddar i weini te hufen, gan ddefnyddio llestri tsieni’r coleg, i drigolion Tŷ Cae Nant oedd i gyd wrth eu bodd. Daeth y myfyrwyr yn gôr hefyd, gan swyno’r trigolion â’u melodïau.

Mae’r bartneriaeth wedi bod yn brofiad trawsnewidiol i’r myfyrwyr, sydd wedi magu hyder a sgiliau newydd trwy eu profiad gwaith. Mae hi hefyd wedi dangos gwerth dod â chenedlaethau gwahanol ynghyd a dangos sut all cydweithredu wneud ein cymunedau’n gryfach.

Roedden ni’n falch o fedru cydnabod gorchestion dysgwyr o Goleg Gwent, felly roedd yn anrhydedd i ni gael eu croesawu i Dŷ Cae Nant i dderbyn tystysgrifau o gydnabyddiaeth gan Brif Weithredwr Melin, Paula Kennedy.

Dau berson yn sefyll wrth ymyl ei gilydd, un gyda thystysgrif
Mae Ethan yn derbyn ei dystysgrif o Brif Weithredwr Melin, Paula Kennedy

Mae ein partneriaeth gyda Choleg Gwent wedi bod yn anhygoel. Mae’r dysgwyr wedi gwneud cyfraniad gwych i’n cymunedau byw â chymorth, gan ddod â’u talentau a’u brwdfrydedd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau ein trigolion. Rydym yn edrych ymlaen at gryfhau’r bartneriaeth yma a chynnig profiadau ystyrlon i’n trigolion ac i ddysgwyr o Goleg Gwent.

Helen Seymour — Swyddog Cymunedau, Melin Homes
Grwp o ddisgyblion gyda thystysgrifau
Llongyfarchiadau i chi gyd!

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld