Yn ôl i newyddion

Dathlu ein Lleisiau Melin

Ym Melin rydym wedi ymrwymo i greu cymunedau cryf, cyfnerth ac i ymgysylltu â’n trigolion bob cam o’r ffordd. Un o’n ffyrdd o ymgysylltu â’n trigolion yw trwy’r gwirfoddolwyr yn ein grŵp Lleisiau Melin. Ym Mehefin byddwn yn dathlu Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr, felly roeddem ni’n meddwl y byddai’n gyfle perffaith i amlygu gwaith anhygoel ein Lleisiau i wneud gwahaniaeth i’n cymdogaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ysgrifennwyd gan Will

05 Meh, 2023

A group of people stood in a line next to a banner with Melin Voices printed on it

Grŵp yw Lleisiau Melin sy’n cynnwys trigolion Melin sydd wedi gwirfoddoli i roi adborth a mewnwelediad i sut yr ydym yn rhedeg ein gwasanaethau. Mae’r panel yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion yn ymwneud â thai, cymunedau lleol ac ymgysylltiad trigolion. Rydym yn annog ein trigolion i gyd o bob ardal yr ydym yn eu gwasanaethu i fod yn rhan o Leisiau Melin, er mwyn helpu i sicrhau bod y grŵp yn cynrychioli sbectrwm llawn trigolion y gymdeithas.

Mae rôl Lleisiau Melin yn hanfodol i’n llwyddiant. Trwy roi adborth a mewnwelediad, mae’r panel yn ein helpu ni i addasu ein gwasanaethau a deall anghenion trigolion yn well. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth well o’r hyn y mae trigolion ei eisiau ac yn ein helpu i fodloni anghenion trigolion a chreu cymunedau cryfach.

Cwrdd â Helen (Saesneg yn unig)

Llynedd oedd y flwyddyn lawn gyntaf i ni allu symud y tu hwnt i’r pandemig ac ailasesu anghenion a dymuniadau’n trigolion yn y byd ar ôl y pandemig. Yn hyn o beth, mae’r Lleisiau wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi gwneud llawer i’n cymunedau. Maen nhw wedi helpu i graffu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud, wedi ymgynghori â ni ar newidiadau yr ydym am eu gwneud a hyd yn oed wedi eistedd mewn cyfweliadau wrth i ni gyflogi staff newydd i Melin.

Maen nhw hefyd wedi bod yn arbennig o weithgar mewn perthynas â nodi anghenion ariannu ac maen nhw wedi dosbarthu:

• £20,950 i ariannu talebau bwyd a thanwydd i drigolion Melin sydd mewn angen

• £253 ar gyfer gardd synhwyraidd i Ysgol Treftadaeth Blaenafon

• £300 i gefnogi Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, gan noddi eu noson wobrwyo

• £500 i gefnogi côr Only Melin Aloud

• £580 ar gyfer dodrefn i’r ardd i’n trigolion yng nghynllun cysgodol Tŷ George Lansbury

• £98 ar gyfer bocsys o siocled adeg y Nadolig i blant Melin yn ystod ymweliadau Siôn Corn

• Cannoedd o bunnoedd i’n cynlluniau cysgodol ar gyfer digwyddiadau’r Nadolig a’r Pasg

Mae’r llwyddiannau yma’n dangos pa mor bwysig yw gwaith Lleisiau Melin ac mae’n adlewyrchu sut mae gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau yn ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth go iawn i drigolion.

Mae’r llwyddiannau yma’n dangos pa mor bwysig yw gwaith Lleisiau Melin ac mae’n adlewyrchu sut mae gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau yn ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth go iawn i drigolion.

Rydym mor falch o wirfoddolwyr Lleisiau Melin fel ein bod ni am achub ar y cyfle yma yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr i gydnabod ac i ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled. Mae’r Lleisiau’n rhoi o’u hamser a’u hegni i’n helpu ni i wasanaethu ein trigolion ac rydym yn gwerthfawrogi eu hadborth adeiladol, beirniadol ac ystyriol yn ein gwaith. Rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd a byddem wrth ein bodd yn clywed gan fwy o drigolion sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda’r Lleisiau.

Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith pwysig gyda’r Lleisiau a blwyddyn brysur arall o ymgysylltiad â’r gymuned a thrigolion. Rydym yn gwybod bod amserau’n anodd gyda’r argyfwng costau byw, ond rydym yn gwybod y gallwn ddod trwy hyn gyda’n gilydd trwy weithio mewn partneriaeth â’n trigolion.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld