Yn ôl i newyddion

Hwyl a Sbri Casglu Swbriel

Cawsom ddiwrnod gwych yng Nghasnewydd ar ôl i rai o'n trigolion ifanc ofyn a allem ni gefnogi digwyddiad casglu sbwriel yn eu hardal nhw. Sut gallem ni ddweud na? Llwythom ni ein bws mini gyda'n holl offer casglu sbwriel a threfnu dyddiad. Manteisiom ar y cyfle i wahodd aelodau staff o bob rhan o'r sefydliad gan gynnwys ein Timau Cymunedau, Cymdogaethau a'n Tîm Diogelwch Cymunedol.

Ysgrifennwyd gan Fiona

12 Awst, 2022

Trigolion casglu sbwriel

Roedd yn wych gweld cymaint o'n pobl ifanc yn dod i helpu i glirio sbwriel o'r ardal, fe weithion nhw galed dros ben gyda chefnogaeth staff, gan gasglu bron i bedwar bag llawn o sbwriel. Roedd yr haul yn tywynnu arnom ac mae'r gwenau ar wynebau pawb yn dangos pa mor bwysig yw digwyddiadau ymgysylltu fel hyn. Bydd pob gwirfoddolwr o'r gymuned yn derbyn gwobr Diolch Cymunedol am eu holl waith caled ac fel gwobr am eu holl gymorth cafodd ein trigolion ifanc gyfle i gael eu hwynebau wedi'u paentio, cymryd rhan mewn gemau stryd ac anifeiliaid balŵn. Wrth symud ymlaen, mae trigolion wedi dweud sut y byddan nhw'n sicrhau bod y stryd yn cadw'n daclus.

Kian casglu sbwriel
Kian yn codi'r 'mwyafrif' o’r sbwriel!

Mae’n edrych cymaint yn well, rwyf wedi cael hwyl a chredaf mai fi gasglodd y mwyafrif o’r sbwriel!

Kian, un o drigolion Melin

Rhoddodd y digwyddiad ymgysylltu, gyfle i staff sgwrsio â rhieni am unrhyw broblemau a phryderon sydd ganddynt, a rhoi ychydig oriau o hwyl am ddim i bawb.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld