Yn ôl i newyddion

Mae bywyd yn braf i bryfed

Ymwelodd Jane Hutt AC â phrosiect budd cymunedol Being Greener yn Gibbonsdown

Ysgrifennwyd gan Sam

26 Gorff, 2016

Mae bywyd yn braf i bryfed

Ymwelodd Jane Hutt AC â phrosiect budd cymunedol Being Greener yn Gibbonsdown. Mae’r tîm wedi gweithio gyda’r contractwyr SMK a Gibson i ddarparu gwerth £10,000 o fudd i’r ysgol, gan gynnwys adeiladu llyn, rhoi planhigion, offer llyn a hela bwystifold bach, meinciau, ailbeintio a chynnal a chadw cyffredinol o dir yr ysgol.

Mae rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.1 miliwn allan o gost prosiect cyffredinol o £2.4 miliwn, i wella effeithlonrwydd ynni o dros 234 o gartrefi yn Gibbonsdown. Cafodd yr eiddo a wellwyd eu trin gydag ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys insiwleiddio waliau allanol gyda systemau gwresogi ac uwchraddio.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Oakfield, ym mhentref Bro Morgannwg, Mr Williams: “Mae pawb wrth eu bodd gyda’n hardal llyn newydd. Roedd cael contractwyr profiadol gyda pheiriannau wedi golygu bod gennym yn awr lyn ac ardal decin ni fyddem wedi gallu adeiladi ein hunain. Mae'n ddechreuad ar yr hyn yr ydym yn gobeithio bydd yn faes gwyllt anhygoel. Mae'r plant wedi bod yn weithgar wrth gynllunio’r ardal, ac mae hyn wedi darparu gweithgareddau dysgu bywyd go iawn. Rydym wedi plannu planhigion o amgylch y llyn ac wedi rhoi penbyliaid a chreaduriaid eraill i mewn iddo. Gyda'r offer bwystfilod bach newydd gall y plant i gyd gael profiad o archwilio’r pwll a gweithgareddau natur eraill heb orfod gadael tir yr ysgol."

Roedd AC lleol Jane Hutt wrth ei bodd gyda'r ymweliad a hyd yn oed wedi jocian 'Mae'r plant wedi dal y byg mewn mwy nag un ffordd!' ar ôl gweld pa mor frwdfrydig ac yn angerddol oedd y plant gyda'u hystafell ddosbarth awyr agored newydd.


Yn ôl i newyddion