Yn ôl i newyddion

Mae help wrth law

Mae Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen yn gweithio'n galed i helpu pobl hŷn yn ein cymunedau i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Ysgrifennwyd gan Sam

28 Maw, 2017

clients helped by Care & Repair
Mae'r asiantaeth yn helpu perchnogion tai a thenantiaid preifat sy'n hŷn i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi. Maent yn ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi ac yn trafod pa atgyweiriadau neu addasiadau yr ydych eu hangen, yr atebion posibl, y costau tebygol a ffynonellau cyllid. Dyma ddau gleient sydd wedi elwa'n ddiweddar ar wasanaethau Gofal a Thrwsio.

Mrs Elsie Desmond
Daeth yr hynod annibynnol Mrs Desmond sydd bron yn 80 mlwydd oed i gyswllt â Gofal a Thrwsio am y tro cyntaf pan aeth ei diweddar ŵr yn sâl.
Yn fwy diweddar mae hi wedi cael golau diogelwch wedi'i osod y tu allan, diolch i rodd a wnaed gan Western Power i Ofal a Thrwsio er mwyn dangos ewyllys da. Fe wnaeth Helen James, gweithiwr achos, ddyrannu'r arian hwn i osod goleuadau diogelwch y tu allan i gartref Mrs Desmond fel modd o ymdrin â phryderon diogelwch. Mae Helen hefyd wedi gallu rhoi blanced dân, cadwyni drws a rheilen allanol i Mrs Desmond i'w helpu i gerdded yn ddiogel i lawr y llwybr yn ei gardd. Dywedodd Mrs Desmond: "Mae'r gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar diolch i Ofal a Thrwsio yn gwneud i mi deimlo'n fwy diogel."

Mr Darryl Harber
Gosodwyd system wresogi newydd yn cynnwys boeler newydd, tân trydan a rheiddiaduron i Mr Harber ar ôl i'w hen foeler gael ei gondemnio a'i dynnu oddi yno. Cyn dod i gysylltiad â Gofal a Thrwsio buodd heb wres a dŵr poeth am dair wythnos yn ystod y gaeaf. Roedd wedi dioddef colled sylweddol yn flaenorol drwy dwyll soffistigedig ar y rhyngrwyd ac mae'n gobeithio y bydd ei stori yn rhybudd i eraill. Fe wnaeth Cymorth i Ddioddefwyr ei roi mewn cysylltiad â Gofal a Thrwsio pan glywsant ei fod yn byw heb wres.
Dywedodd Mr Harber: "Ni allaf ddiolch digon i chi. Rydych wedi achub fy mywyd a gorau po fwyaf o bobl sy'n gwybod amdanoch. Nid wyf yn gwybod lle byddwn i wedi bod heboch. Cafodd y gwaith i gyd ei gwblhau o fewn dau ddiwrnod. Roedd pob un o'r contractwyr yn effeithlon iawn ac mae Helen, fy ngweithiwr achos Gofal a Thrwsio wedi bod yn wych."

Os ydych chi neu aelod o’r teulu angen ychydig o help llaw gan Ofal a Thrwsio, rhowch alwad iddynt ar 0300 111 3333

Yn ôl i newyddion