Yn ôl i newyddion

Mae ychydig o help yn gwneud gwahaniaeth mawr

Fe gwrddon ni â thrigolion, Deb, 59 a Dickie, 62 yr wythnos yma gan eu bod nhw am ddiolch i’n Tîm Incwm a Chynhwysiant, a rhannu eu stori gydag eraill.

Ysgrifennwyd gan Fiona

06 Hyd, 2017

Mae ychydig o help yn gwneud gwahaniaeth mawr
Fe gwrddon ni â thrigolion, Deb, 59 a Dickie, 62 yr wythnos yma gan eu bod nhw am ddiolch i’n Tîm Incwm a Chynhwysiant, a rhannu eu stori gydag eraill.

Cwrddon ni â’r ddau bedair blynedd yn ôl. Mae Deb yn cofio, “Roeddwn yn benthyg gan un er mwyn talu’r llall. Rwy’n gallu darllen ac ysgrifennu ond doeddwn i ddim yn agor llythyron. Doedd dim digon o arian yn dod i mewn, roeddwn i ar ôl gyda phob bil.”

Ymwelodd y Tîm a gosod trefn ar y biliau dŵr, nwy, trydan a rhent. Pan aeth Dickie’n dost fe roddon nhw’r ddau i gysylltiad â Tenovus a Macmillan Cancer a gwneud cais am fudd-daliadau ychwanegol sydd wedi gwneud y gwahaniaeth. Roedd bywyd yn anodd iawn ar un adeg, yn trafferthu i ddringo allt gyda’r siopa, a thalu am dacsis drud. Ond nawr mae’r cyfeillion yn gwybod sut i roi trefn ar eu harian ac maen nhw hyd yn oed yn edrych ymlaen at wyliau bach yn Brean Sands.

Siaradodd Deb am yr help gan y tîm gan ddweud; “Mae Bethan Edwards yn anhygoel, rhywun sydd bob amser yn mynd yr ail filltir ac mae Gavin Payne yn seren. Mae’r gwasanaeth yn wych. Rwy’n cynghori pobl eraill i gysylltu â nhw. Peidiwch â dioddef, mae help ar gael!”

Gall ein Tîm Incwm a Chynhwysiant eich helpu chi hefyd. Byddan nhw’n ymweld â chi yn eich cartref neu ble bynnag y dymunwch.

Os ydych chi’n cael pethau’n anodd, cysylltwch â’n cynghorwyr Arian ac Ynni a fydd yn

Rhoi cyngor o’r radd flaenaf ar fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP) a’r Cap ar fudd-daliadau;
Helpu gyda chreu trefnydd arian, bydd hyn yn eich helpu i gyllido a gallwn hyd yn oed rhoi cyngor i chi ar sut i gynyddu’ch incwm
Helpu gyda dyled ynni a chyngor;
Helpu gyda cheisiadau am grantiau ar gyfer pethau fel peiriannau golchi ac oergelloedd;
Rhoi cymorth gyda thribiwnlysoedd neu apeliadau budd-daliadau;
Helpu i agor cyfrif banc neu gyfrif cadw neu roi cymorth digidol;
Rhoi Talebau Banc Bwyd i chi fel nad oes rhaid i chi ddewis rhwng bwyd a gwres.

Mae gyda ni dîm ymroddedig sy’n aros i’ch helpu. Rhowch alwad i ni ar 01495 745910 neu danfonwch e-bost at y Tîm Incwm a Chynhwysiant.


Yn ôl i newyddion