Yn ôl i newyddion

Dyma gyflwyno Sanni: aelod o’r Bwrdd

Ymunodd Sanni â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2022. Rydym am rhannu ei siwrnai er mwyn ysbrydoli eraill i gymryd y camau nesaf i fod yn aelod o’r Bwrdd.

Ysgrifennwyd gan Fiona

21 Gorff, 2023

Llun o Sami

Fy enw yw Sanni Salisu. Croeso i fy mlog sy’n cofnodi fy mhrofiad yn Ystafell y Bwrdd.

Yn gyntaf, ychydig bach amdanaf i. Gorffennais flwyddyn 11 gyda gradd C mewn TGAU mathemateg yn unig. Roedd canlyniadau’r holl arholiadau eraill yn is na gradd C. Heb falio dim am fy nghanlyniadau, fe es ymlaen i astudio BTEC Lefel 2 mewn Peirianneg a TG. Fe wnes eu mwynhau yn fawr iawn a llwyddais i gael teilyngdod yn y ddau bwnc. Gadewais yr ysgol a mynd i weithio mewn popty diwydiannol mawr am ychydig o flynyddoedd cyn penderfynu mynd ati i ail-hyfforddi fel plymwr a pheiriannydd nwy mewn coleg lleol. Ar ddiwedd fy mlwyddyn lawn gyntaf, cefais brentisiaeth 4-blynedd mewn cymdeithas dai leol. Rhoddodd hyn nid yn unig y cymwysterau i mi, ond hefyd, cymaint o brofiad.

Rwy'n ymfalchïo’n fawr yn yr hyn yr ydym yn ei wneud mewn cymdeithas dai cymdeithasol a’r gwahaniaeth cadarnhaol yr ydym yn ei wneud yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwy’n angerddol dros dai a chredaf fod gan bawb hawl i fyw mewn cartref diogel a fforddiadwy mewn cymunedau sy’n ffynnu. Mae’r sector tai yn ymdrechu’n fawr iawn i gyflawni hyn. Ar ôl dros ddegawd yn gweithio fel peiriannydd yn y sector tai, a gweithio mewn miloedd o gartrefi yn y cymunedau amrywiol, roedd yn amlwg i mi nad oedd y gweithlu a’r Byrddau yn adlewyrchu’r cymunedau y bu’r sefydliadau yn eu gwasanaethu. Doeddwn i ddim yn gweld llawer o bobl a oedd yn edrych fel fi, neu a oedd â’r un profiad bywyd â mi. Roedd diffyg amrywiaeth yn y rolau uwch ac yn ystafelloedd bwrdd y darparwyr tai cymdeithasol. Dyna yw’r achos o hyd. Rwyf wrth fy modd â'r sector tai; mae wedi rhoi cyfleoedd i mi dyfu a datblygu ond rwyf hefyd wedi dod ar draws rhagfarn a hiliaeth a gweld yn uniongyrchol yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gymunedau.

Er bod fy mhrofiad yn y sector tai wedi bod yn gadarnhaol ac yn negyddol, mae gen i'r angerdd i wella'r gynrychiolaeth yn y sector i wasanaethu'r gweithwyr yn well, ac yn bwysicaf oll i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu; felly’n helpu sefydliadau i ymgysylltu, a darparu gwell gwasanaethau i'w cymunedau ehangach.

Rwyf wir yn gobeithio gweld mwy o amrywiaeth yn y sector tai ar bob lefel, ymhob sefydliad lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i fod yn ‘nhw eu hunain’ yn gyfan gwbl yn y gwaith. Y gobaith hwn a wnaeth i fod mor benderfynol o ddod yn aelod o'r bwrdd.

Sanni — Aelod o fwrdd Melin

Dod yn aelod o’r Bwrdd


O’r hyn yr ydych wedi’i ddarllen hyd yma, efallai y byddwch yn gofyn beth sy'n fy ngalluogi i fod yn aelod o'r bwrdd? Wel, efallai nad wyf wedi graddio o’r brifysgol, neu’n swnio fel y math o berson y byddech yn disgwyl iddo fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol (NED).

Rwyf yn aelod o'r bwrdd oherwydd bod gen i brofiad sylweddol yn y sector tai. Rwyf wedi gweithio ar draws llu o adrannau, o gynnal a chadw ymatebol, i fylchau a chydymffurfiaeth a, datgarboneiddio, cydweithio gyda rheolwyr cymdogaethau, helpu i ddatblygu polisïau a llawer mwy. Rwy'n deall y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau cyfreithiol dros reoli cyllid ac asedau'r sefydliad mewn modd cyfrifol. Efallai nad wyf yn aelod nodweddiadol o'r Bwrdd, ond mae gennyf y sgiliau a’r profiad sy’n ychwanegu gwerth i agweddau rheoli, gwerthoedd ac amcanion strategol fy Mwrdd.

Yn rhyfedd iawn, nid oedd cael rôl ar y bwrdd cymaint o her ag yr oeddwn yn ei ddisgwyl a dweud y gwir. Oherwydd ymgyrch diogelwch nwy y cymerais ran ynddi ar ran Cartrefi Cymunedol Cymru, gofynnwyd i mi a fyddai gennyf ddiddordeb mewn gwneud cais am le ar eu bwrdd pan fyddai’r cyfle yn codi. Daeth swydd wag, fe wnes gais a llwyddais i gael cyfweliad. Ni chefais lwyddiant oherwydd bod ganddynt ymgeiswyr gwell, ond, cefais adborth gwych a roddodd hyder i mi ddal ati. Ymgeisiais am rôl ar ddau Fwrdd Tai Cymdeithasol arall.

Cefais wahoddiad i gyfweliad ar gyfer rôl Aelod o'r Bwrdd gyda Chartrefi Melin, ac ar ôl proses drylwyr, cefais lwyddiant. Roeddwn i'n ffodus bod Paula (Prif Weithredwr Cartrefi Melin) wedi bod ar y panel cyfweld pan gefais gyfweliad ar gyfer rôl ar fwrdd TCC, a’i bod yn eiriolwr i mi yn y broses ddethol, gan sicrhau fy mod yn cael cyfweliad. Ar ôl i mi gael gwahoddiad i'r cyfweliad, roedd y gweddill i fyny i mi, i wneud fy mheth a syfrdanu’r panel.

Cyn i mi gyrraedd y pwynt hwn o gael yr hyder i wneud cais, hoffwn nodi ychydig o bethau a wnaeth fy helpu ar hyd y ffordd.

Yn gyntaf, mae gen i fentor sy’n hyfforddwr hollol wych, sy’n rhannu ei sylwadau gyda mi. Mae cael mentor sydd mor brofiadol, ac sy’n gallu eich cefnogi ar eich siwrnai, yn bwysig iawn, o ran datblygu’ch gyrfa a’ch atgyfnerthu’n gadarnhaol. Mae Sonia wedi chwarae rôl ganolog yn fy natblygiad personol drwy gyfarfodydd misol rheolaidd, ac am hyn, mawr yw fy niolch iddi!

Yn ail, siaradais â nifer o aelodau bwrdd sy’n hynod brofiadol, ac fe wnaethant rannu rhai o’u profiadau ynglŷn â’r hyn y mae bod yn aelod o’r Bwrdd yn ei olygu. Cyfeiriaf at Andrew Knight yn benodol. Cymerodd amser i egluro i mi beth yn union i chwilio amdano mewn sefydliad wrth wneud cais i fod ar eu Bwrdd, ac yn bwysicaf oll, roedd yn gallu adnabod fy nghryfderau a’m cynghori sut i’w defnyddio orau yn fy nghais.

Yn drydydd, eistedd yng nghyfarfodydd Bwrdd fy sefydliad fy hun i weld yr hyn sy’n mynd ymlaen yn y sefydliad, a chael blas o’r hyn sy’n cael ei drafod, oedd y peth a wnaeth fy helpu’n fawr i gadarnhau’r effaith y gallaf ei wneud mewn sefydliad, a hynny o ran y gweithwyr a’r gymuned y maen nhw’n ei gwasanaethu. Arsylwais ar fwrdd CTCC am fy mod yn Swyddog Cydymffurfiaeth Nwy yno ar y pryd.

Gan symud ymlaen, es i swyddfa Melin ym Mhont-y-pŵl, tynnwyd llun ohonof, casglais fy mathodyn a fy ngliniadur a dyna ni, roeddwn yn barod am fy nghyfarfod cyntaf fel aelod o’r bwrdd.

Pan dderbyniais fy mhecyn cyntaf, cefais fy syfrdanu gyda’r holl eitemau ar yr agenda a’r 140 o dudalennau o adroddiadau. Mi wnes fwrw ati i ddarllen y papurau gan wneud cofnod o’r acronymau a’r geiriau nad oeddwn wedi dod ar eu traws o’r blaen. Roeddwn yn deall peth o’r cynnwys yn yr adroddiad yn llawn, a chan gyfeirio nôl at fy nghyfnod hir yn y sector, dechreuais hel y darnau at ei gilydd, gan droi at Google i ganfod yr acronymau ac ati. Nodais ambell i gwestiwn ac roeddwn yn barod am fy nghyfarfod cyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfod ar Zoom am ein bod yn dechrau symud allan o’r pandemig. Estynnwyd croeso cynnes iawn i mi a Naomi, aelod newydd arall o’r bwrdd, ac roeddem yn teimlo’n hyderus i gyfrannu yn ein cyfarfod cyntaf. Roeddem yn gallu ychwanegu gwerth drwy ofyn cwestiynau beirniadol yn seiliedig ar yr adroddiadau yn y papurau. Gofynnom am sicrhad ac fe wnaeth y tîm arweinyddiaeth dawelu ein meddyliau.

Ni allai fy nghyfarfod cyntaf fod wedi bod yn well ac roedd yr adborth a gefais gan Paula, y Prif Weithredwr a Julie Thomas, Cadeirydd y bwrdd, yn ardderchog. Mae bod yn aelod o'r Bwrdd yn gallu bod yn heriol, ond mae bob amser yn werth chweil, ac er bod angen cryn lawer o ymdrech, mae’r buddion, heb os, yn werth chweil. Rwyf wedi cael y cyfle i gael effaith wirioneddol o fewn y sefydliad a'r gymuned ehangach.

Llun o Sami

Fel aelod newydd o’r bwrdd, cefais fentor i gael cefnogaeth a hyfforddiant. Os nad ydych yn hyderus pan fyddwch yn ymuno â’r bwrdd, medrant drefnu mentor ar eich cyfer, neu fe allwch ofyn am un. Fe wnaeth fy ngwaith ymchwil a fy hunanddatblygiad cyn i mi gael fy mhenodi am y tro cyntaf i’r bwrdd, fy mharatoi yn dda ar gyfer y rôl, ac fe wnaeth dalu ffordd.

A minnau yn Foslem sy’n bwyta bwydydd Halal ac yn gweddïo pum gwaith y dydd, mae bwydydd hala bob amser ar gael yn ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac mae ‘na le i mi weddïo ers i mi roi gwybod i’r tîm fod gennyf anghenion. Yn anffodus, mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â gofynion arbennig fel diet er enghraifft yn aml yn cilio rhag gofyn er, ar 9 achlysur allan o 10 nid yw erioed wedi bod yn broblem unwaith y bydd pobl yn gwybod. Bydd gan weithle cynhwysol brosesau a gweithdrefnau i ddarparu ar gyfer pawb sydd â holl nodweddion gwarchodedig y Ddeddf Cydraddoldeb, felly’n creu amgylchedd gwaith gwych.

Pam roeddwn i eisiau ymuno â Bwrdd Cartrefi Melin


Cefais fy nenu i Gartrefi Melin Homes am eu bod wedi ymrwymo i addewid Wneud nid Dweud, Cymdeithas Tai Pawb yr wyf yn aelod ohoni. Mae’r ymrwymiad yn helpu’r sector dai i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol , hyrwyddo arfer gorau a chefnogi mudiadau i gymryd camau cadarnhaol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol i wasanaethu cymunedau amrywiol yn well ledled Cymru. Mae Melin yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda, gydag arweinwyr a staff gwych.

Roedd mynd i ddigwyddiadau fel diwrnodau i ffwrdd gyda’r Bwrdd yn ddiddorol iawn. Trafodwyd parodrwydd y bwrdd i dderbyn risg , ac roedd yn anhygoel cwblhau ymarferion sgiliau tîm gyda Chyfarwyddwyr Anweithredol eraill...cawsant hefyd gyfle i ddysgu pa mor gystadleuol ydw i! Er nad oeddwn yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod cyntaf i ffwrdd gyda’r Bwrdd, roedd yn ddiwrnod ardderchog, wedi ei gynllunio’n dda, yn llawn gwybodaeth, ac roedd y trafodaethau ar y lefel nesaf! Cyfrannodd pawb ac roedd gan bawb farn gwahanol, oedd yn iach a chwrtais a pharchwyd yr holl safbwyntiau gwahanol.

Wrth gwrs, fel aelod o’r Bwrdd gallwch ddewis mynychu cyfarfodydd statudol ac is-bwyllgorau yn unig. Mae hyn yn iawn, ond os oes gennych yr amser i gymryd rhan yn y digwyddiadau eraill a drefnir, sy’n cynnwys eich cwsmeriaid, a rhanddeiliaid, credaf mai mynd amdani yw’r ateb. Fe gewch ddysgu cymaint mwy am y sefydliad, y bobl a’r ffordd mae’n gweithredu. Cymerais ran yn nigwyddiad golff elusennol Melin, gwirfoddolais mewn rhaglen allgymorth mewn prosiect ysgol cymunedol ac rwyf yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu DPA newydd ar gyfer y sefydliad. Gallwch fuddsoddi cymaint o amser ag y mynnwch y tu hwnt i’r cyfarfodydd statudol, ac mae hyn yn caniatáu i chi greu effaith go iawn.

Y cymorth sydd ar gael i baratoi eich aelod o’r Bwrdd

Gall fod yn anodd paratoi ar gyfer rolau ar y Bwrdd pan nad oes gennych y sgiliau neu’r profiad angenrheidiol. Serch hynny, mae rhaglenni ar gael i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich rôl gyntaf. Rwy’n eich argymell i gysylltu ag Afshan Iqbal yn CCTC sef rheolwr prosiect ‘Ewch i Mewn i Dai’ rhaglen ‘Llwybr at Aelodaeth Bwrdd’ sy’n datblygu aelodau lleiafrifoedd ethnig i gael y profiad a’r sgiliau i weithio yn y sector, ac ar lefel y Bwrdd. Mae Hayley Selway (Prif Weithredwr CCTC) wedi chwarae rôl ganolig o ran datblygu’r prosiectau hyn, ar y cyd â chymdeithasau tai eraill, i wella’r gynrychiolaeth yn y sector i adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae Housing Diversity Network yn sefydliad arall sydd yn werth sôn amdano o ran cefnogaeth mentora a rhaglenni’r byrddau.

Ewch ati i estyn allan i’ch sefydliadau lleol ac arsylwi ar gyfarfodydd Bwrdd eich sefydliad chi. Mynnwch fentor a all eich cefnogi a gafael yn eich llaw ar hyd eich taith, byddwch yn atebol am eich hun pan gewch gyfle i ddisgleirio.

Sanni — Aelod o fwrdd Melin

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld