Yn ôl i newyddion

Dewch i gwrdd â’ch Swyddog Diogelwch Cymunedol

Dywedodd trigolion wrthym ni y bydden nhw’n hoffi gwybod mwy am ein Swyddog Diogelwch Cymunedol a’r hyn y maen nhw’n gwneud. Dyma’r cyntaf o’n tîm sy’n ymddangos yn ‘Dewch i gwrdd â’ch Swyddog Diogelwch Cymunedol...

Ysgrifennwyd gan Fiona

30 Meh, 2023

A Melin employee wearing a branded black t-shirt stood outside the Melin offices

Dylan Edwards

Dylan ydw i, un o Swyddogion Diogelwch Cymunedol Melin ac rwy’n gweithio ym mhob un o’r ardaloedd awdurdodau lleol mae gan Melin gartrefi ynddyn nhw.

Siaradwch â fi am

Rwy’n helpu ac yn cefnogi trigolion yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gyda phroblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, aflonyddu, camdriniaeth eiriol, trais domestig, diogelu, a throseddau casineb. Mae rhan fawr o’r rôl yn cynnwys cefnogi trigolion a chysylltu ag asiantaethau fel yr Heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau lleol a chefnogaeth i ddioddefwyr.

Mae dulliau ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn canolbwyntio ar y person, gan ymgysylltu a gweithio gyda’n trigolion. Rydym yn cydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gallu bod yn symptom o angen heb ei ddiwallu neu drawma.

Mae ein staff wedi eu hyfforddi’n llawn ac maen nhw’n canolbwyntio diwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol gydag ymddygiadau, cryfderau ac anghenion y partïon i gyd sydd ynghlwm. Rydym yn credu’n gryf bod gweithio mewn partneriaeth ac ymyrryd yn gynnar gyda chydbwysedd gan ganolbwyntio ar; addysg, cefnogaeth, atal a chamau cyfreithiol pan fo angen, yn rhoi ateb parhaus i drigolion a’u cymunedau.

Bodlonrwydd swydd

Rydw i’n caru fy swydd gan ei bod mor amrywiol a does yr un diwrnod yr un fath ag un arall! Rydw i wrth fy modd yn cyfarfod â phobl ac yn eu helpu, a theithio o amgylch cymunedau.

Cwestiynau cyffredin

Rydym yn cael llawer o gwestiynau o gylch aflonyddu sŵn. Dyw barbeciw swnllyd un tro ddim yn cyfri, mae’n rhaid i aflonyddu sŵn fod yn eithafol ac yn rheolaidd. Os yw cymdogion yn cynnal barbeciw swnllyd un tro rydym yn argymell cael sgwrs gyda nhw, oherwydd efallai na fyddan nhw’n sylweddoli’r effaith y mae’n cael ar gymdogion.

Os ydych chi’n cael eich effeithio neu eich aflonyddu gan niwsans sŵn wedi ei achosi gan un o drigolion Melin, y peth cyntaf y dylech wneud yw cysylltu â ni trwy ein canolfan gysywllt cwsmeriaid. Os nad ydych chi wedi gwneud eisoes, bydd ein tîm cyswllt cwsmeriaid yn eich helpu i gofrestru gyda’n Ap Sŵn. Byddwn hefyd yn gofyn i chi a ydych chi wedi cysylltu â’r cyngor (adran Iechyd Amgylcheddol) i ddweud am aflonyddu sŵn.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld