Yn ôl i newyddion

Cwrdd â'ch Swyddog Cymdogaeth

Ydych chi erioed wedi meddwl wrth bwy i ofyn iddyn nhw am eich cytundeb tenantiaeth, neu wrth bwy i ofyn am help gyda'ch pryder tai? Mae ein Swyddogion Cymdogaeth ar gael i helpu gydag ystod o faterion ynglŷn â'ch tenantiaeth. Mae ganddyn nhw ardal ddynodedig, ac maen nhw’n gweithio gyda thrigolion sy'n byw yn yr ardal honno. Yma gallwch gwrdd â'ch Swyddog Cymdogaeth a darganfod sut y gallant eich helpu a sut y gallwch chi gysylltu â nhw.

Ysgrifennwyd gan Sam

04 Hyd, 2022

Ffotograffau portread o Kate, Gareth, Sam a Ceri, ynghyd â map o dde-ddwyrain Cymru

Kate Shaw yn cwmpasu Gogledd Torfaen gan gynnwys Pont-y-pŵl, Pontnewynydd, Abersychan, Blaenafon a Blaenau Gwent.

Sam Morgan yn cwmpasu De Torfaen gan gynnwys Cwmbrân, Sebastopol, New Inn a Griffithstown.

Gareth Jackson yn cwmpasu Sir Fynwy gyfan gan gynnwys Y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed.

Ceri Jones yn cwmpasu Casnewydd a Phowys.

Fel rhan o'u rôl, mae swyddog cymdogaeth:

  • yn siarad â thrigolion o gyn-denantiaeth am yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan Melin;
  • yn helpu trigolion i ddeall yr hyn a ddisgwylir ohonynt fel tenantiaid;
  • yn cefnogi pobl gyda'u tenantiaeth o ymweliadau ymgartrefu i gydgyfnewid;
  • yn gwneud yn siŵr bod trigolion yn cael cynnig y gefnogaeth gywir pan fo angen;
  • yn gweithio gyda thrigolion a staff i sicrhau bod eiddo Melin yn derbyn gofal da ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda;
  • yn cefnogi trigolion sydd â phryderon tenantiaeth, fel celcu neu erddi anniben;
  • yn gweithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod trigolion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi;
  • yn helpu trigolion i rannu barn a llywio ein gwasanaethau drwy fod yn rhan o’r sgwrs;
    yn cymryd camau os oes angen, yn erbyn y rhai sy'n torri eu hamodau tenantiaeth.

Yn ôl i newyddion