Yn ôl i newyddion

Melin Works yn helpu dyn o’r Fenni i gael hyd i waith

Mae Mark yn un o drigolion Melin yn y Fenni ac roedd wedi bod yn ddi-waith ers cryn amser.

Ysgrifennwyd gan Marcus

23 Hyd, 2017

Melin Works yn helpu dyn o’r Fenni i gael hyd i waith

Mae Mark yn un o drigolion Melin yn y Fenni ac roedd wedi bod yn ddi-waith ers cryn amser. Yn ystod ei amser gyda Melin Works, mae Mark wedi gallu datblygu sgiliau newydd, cynyddu ei hyder a mynd i waith llawn amser.

“Roedd yna adegau pan oeddwn yn teimlo mor bell i ffwrdd o fynd yn ôl i’r gwaith. Ond gyda help Allison rydw i nawr yn ôl mewn gwaith amser llawn. Roeddwn i’n hoffi ei bod nhw’n sicrhau bod yr holl help yr oeddwn yn cael yn canolbwyntio ar fy anghenion a’r pethau oedd yn fy atal rhag cael gwaith yn y lle cyntaf. Fedra’ i ddim diolch digon i Melin” dywedodd Mark

Roedd yr help i Mark gan y tîm yn cynnwys;

  • Cwblhau cymhwyster Iechyd a Diogelwch a Hylendid Bwyd Lefel 2
  • Mynychu rhaglen Anwytho
  • Gwiriad CRB newydd ar gyfer gwaith
  • Adnewyddu Trwydded Gyrru
  • Talu costau teithio ar gyfer hyfforddiant
“Mae Mark nawr mewn gwaith llawn amser gydag Allied Health Care ac ar y ffordd i ddyfodol gwell. Wrth weithio gydag ef roeddwn y gallu gweld bod angen y math cywir o gefnogaeth arno i’w gael yn ôl i waith, ac rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu helpu” meddai Allison James, Swyddog Cyflogaeth, Melin Works.



Yn ôl i newyddion