Yn ôl i newyddion

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda

Mae trigolion, gwirfoddolwyr a staff Melin wedi cael amser gwych yn dathlu’r Nadolig eleni yn ein cymunedau. Mae Siôn Corn a’i helpwyr Melin wedi ymweld â thrigolion hen ac ifanc ar draws de-ddwyrain Cymru i rannu hwyl y Nadolig, canu carolau, a llawer mwy trwy gydol mis Rhagfyr 2023.

Ysgrifennwyd gan Will

21 Rhag, 2023

Grwp o bobl gyda Sion Corn

Rydym wedi ymweld â 12 o gymdogaethau Melin dros yr wythnosau diwethaf a rydym wedi rhoi anrhegion Nadolig cynnar i gannoedd o blant ar fws sled Siôn Corn. Rydym hefyd wedi ymweld ag 11 o dai gwarchod Melin, i ddathlu gyda partis Nadolig.

Mae 54 o staff Melin wedi helpu gyda'r ymweliadau Nadolig a lapio anrhegion Nadolig i drigolion. Hoffem ddweud diolch yn arbennig i'n Tîm Cymunedau sy'n trefnu ein hamserlen brysur o ddigwyddiadau Nadolig ac sydd wedi rhannu hwyl a sbri yn ystod Mis Rhagfyr.

Hoffem hefyd ddiolch i David Egan o’n grŵp Lleisiau Melin. Helpodd David gyda 5 ymweliad fel gwirfoddolwr, diolch am eich help David!

Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r partneriaid a’r noddwyr a gefnogodd ein digwyddiadau Nadolig. Hoffem ddweud diolch i Morris’ of Usk am ddarparu 6 o dwrci ffres, International Greetings am eu rhodd o resi o bapur lapio a TMS, Evolve a Dulux a’n cefnogodd ni i brynu anrhegion i'r plant. Ni fyddem wedi gallu ei wneud heb eich cefnogaeth – diolch i chi gyd.

Hoffech chi weld Siôn Corn yn eich cymuned yn 2024? Gallwch anfon e-bost aton: Communities@melinhomes.co.uk

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n trigolion, staff a gwirfoddolwyr ar gyfer 2024!

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld