Yn ôl i newyddion

Awgrymiadau ar arbed arian ac ynni

Rydym wedi rhoi at ei gilydd boster sy’n llawn o awgrymiadau gwych ar sut i arbed arian ac ynni yn y cartref, sydd ar gael i’w lawrlwytho fel PDF neu ar gael fel poster wedi ei argraffu y gallwn ei anfon atoch yn rhad ac am ddim.

Ysgrifennwyd gan Fiona

03 Tach, 2021

Ein poster arbed ynni am ddim

Rydym wedi rhoi at ei gilydd boster sy’n llawn o awgrymiadau gwych ar sut i arbed arian ac ynni yn y cartref, fel PDF y gallwch ei lawrlwytho. Os hoffech dderbyn fersiwn wedi’i argraffu o’r poster, ebostiwch ni yn news@melinhomes.co.uk.

Sut i gymharu tariffau nwy a thrydan

Mae Ofgem (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan) yn rheoleiddio’r cwmnïau sy’n rhedeg y rhwydweithiau nwy a thrydan. Maent wedi cymeradwyo nifer o safleoedd cymharu arlein, sy’n lle da i chwilio wrth gymharu tariffau a chyflenwyr ynni.

Gallwch fynd i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth ac i gael rhestr lawn o wefannau cymharu prisiau sydd wedi eu hachredu gan Ofgem.

Chwilio am ragor o wybodaeth? Dyma rai cysylltiadau defnyddiol

Gall yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni eich helpu i weithio allan y mesurau arbed ynni gorau ar gyfer eich cartref. Gallwch eu ffonio ar 0800 512 012 neu ewch i www.energysavingtrust.co.uk.

Mae Nyth yn cynnig cyngor a chymorth di-duedd am ddim i’ch helpu chi i leihau eich biliau ynni. Gallwch eu ffonio nhw ar 0800 808 2244 neu ewch i nest.gov.wales.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am ddim, sy’n annibynnol, yn gyfrinachol ac yn ddi-duedd i bawb ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Gallwch ffonio 03444 77 20 20 neu ewch i www.citizensadvice.org.uk.

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol yn cynnig cyngor di-duedd am ddim. Gallwch eu ffonio ar 0800 138 7777 neu ewch i www.moneyadviceservice.org.uk.

Mae gan y llinell ddyled genedlaethol fwy na 40 o daflenni ffeithiau a chanllawiau sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar ddyled. Gallwch ffonio 0808 808 4000 neu ewch i www.nationaldebtline.org

Mae Turn2us yn elusen cenedlaethol sy’n helpu pobl mewn caledi ariannol gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a gwasanaethau cymorth. Gallwch eu ffonio ar 0808 802 2000 neu ewch i visit www.turn2us.org.uk

Gall Ailgylchu Dros Gymru eich helpu i ailgylchu yn y cartref. Rhagor y wybodaeth yn www.recycleforwales.org.uk

Mae Green Choices yn ymwneud â dewisiadau i amddiffyn ein hamgylchedd. Maent yn darparu gwybodaeth syml ar opsiynau gwyrdd amgen a all wneud gwahaniaeth parhaol. Mae eu gwefan i’w gweld yn www.greenchoices.org

Mae gan Cadwch Cymru’n Daclus fentrau sy’n canolbwyntio ar amddiffyn yr amgylchedd a gwarchod y dirwedd naturiol ar gyfer cenedlaethau nawr ac i’r dyfodol. Ewch i www.keepwalestidy.org.

Mae gan Ddŵr Cymru Welsh Water awgrymiadau a chyngor ar arbed dŵr. Ewch i’w gwefan yn www.dwrcymru.com i gael gwybod mwy.

Smart Energy GB yw’r cynllun cenedlaethol ar gyfer mesuryddion clyfar. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan yn www.smartenergygb.org.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld