Yn ôl i newyddion

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb

Mae’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb rhwng 9fed a 16eg Hydref. Dyma wybodaeth o Heddlu Gwent.

Ysgrifennwyd gan Fiona

07 Hyd, 2021

Stop Hate UK logo

Beth yw trosedd casineb?

Trosedd casineb yw trosedd sydd wedi ei chyflawni yn erbyn rhywun oherwydd:

  • Hil
  • Crefydd
  • Tueddiad rhywiol
  • Anabledd
  • Hunaniaeth drawsryweddol

Gelwir y rhain yn rhagnodion gwarchodedig. Gallwch ddioddef trosedd casineb ar sail un neu fwy o’r uchod, neu os tybir fod gennych un neu fwy o’r rhagnodion gwarchodedig yma.

Does dim gofyniad am dystiolaeth o’r elfen gasineb. Does dim angen i chi amgyffred yn bersonol bod y digwyddiad yn ymwneud â chasineb. Byddai’n ddigon bod person arall, tyst neu swyddog heddlu, hyd yn oed, wedi credu bod y digwyddiad yn gysylltiedig â chasineb.

Mathau o drosedd casineb

Gall trosedd casineb fod yn un o dri prif fath: ymosodiad corfforol, camdriniaeth eiriol ac ysgogi casineb.

Ymosodiad corfforol

Mae ymosodiad corfforol o unrhyw fath yn drosedd. Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad corfforol, dylech ddweud amdano. Gan ddibynnu ar lefel y trais, gall troseddwr gael ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin, gwir niwed corfforol neu niwed corfforol difrifol.

Camdriniaeth eiriol

Gall camdriniaeth eiriol, bygythiadau neu alw enwau fod yn brofiad cyffredin ac amhleserus iawn i grwpiau lleiafrifol.
Mae dioddefwyr camdriniaeth eiriol yn aml yn aneglur o ran a oes trosedd wedi bod ai peidio, neu maen nhw’n credu nad oes fawr y gallan nhw wneud. Serch hynny, mae yna gyfreithiau i’ch gwarchod rhag camdriniaeth eiriol.

Os ydych chi wedi dioddef camdriniaeth eiriol, siaradwch â’r heddlu neu sefydliadau partner am yr hyn sydd wedi digwydd. Mae rhestr ar dudalen sut i riportio troseddau casineb ar wefan Heddlu Gwent .

Hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y gamdriniaeth, gallai’r wybodaeth fod o gymorth i ni wrth geisio gwella’r ffordd yr ydym yn plismona’r fan ble ddigwyddodd y gamdriniaeth.

Ysgogi casineb

Mae’r drosedd o ysgogi casineb yn digwydd pan fo rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n fygythiol ac sydd â’r bwriad o achosi casineb. Gallai hynny fod mewn geiriau, lluniau, fideos, cerddoriaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth a roddir ar wefannau.

Gall casineb gynnwys:

  • negeseuon yn galw am drais yn erbyn person neu grŵp penodol;
  • tudalennau ar y we sy’n dangos lluniau, fideos neu ddisgrifiadau o drais yn erbyn rhywun oherwydd gwahaniaethau tybiedig;
  • fforymau sgwrs ble mae pobl yn gofyn i bobl eraill gyflawni troseddau casineb yn erbyn person neu grŵp penodol.

Effaith Trosedd Casineb

Os ydych chi wedi dioddef trosedd casineb gallech chi deimlo emosiynau nad ydych chi’n siŵr sut i ddelio â nhw. Gallai’r rhain fod yn:

Emosiynol – Llefain afreolus, cynnwrf, aflonyddwch, cywilydd, ofn, hunllefau, marweidd-dra, euogrwydd, rhwystredigaeth ac anobaith.

Ymddygiadol – Dirywiad mewn perthnasau personol, gochelgarwch tebyg i baranoia, osgoi, ynysu, gwahaniad a cholli hunaniaeth.

Efallai bydd niwed corfforol neu golledion ariannol o ganlyniad i’r drosedd. Er enghraifft, efallai bod ymosodiad neu ddifrod i’ch eiddo wedi bod.

Sut mae adrodd amdani:

Sut mae dweud am drosedd casineb. Trwy ddweud am drosedd casineb, efallai bydd modd i chi atal hynny rhag digwydd eto.

Ydy’n fater brys?

Ydy’n teimlo fel gallai’r sefyllfa fynd yn danbaid neu’n dreisgar cyn hir? Oes rhywun mewn perygl uniongyrchol? Oes angen cefnogaeth arnoch chi’n syth? Os felly, ffoniwch 999 os gwelwch yn dda. Os oes gennych chi nam ar y clyw neu leferydd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffôn destun 18000.

Adroddiad dros y ffôn

Ffoniwch 101

Mae cymorth a chyngor ar gael 24/7 trwy rif ffôn cenedlaethol, nid argyfwng.
Neu, ewch at orsaf heddlu.

Cymorth arall sydd ar gael

Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau isod gynnig cefnogaeth, cyngor a ffyrdd o ddweud am y digwyddiad heb orfod siarad yn uniongyrchol â’r heddlu.

Connect Gwent
Cymorth i ddioddefwyr trosedd ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Cymorth cenedlaethol:

Gwybodaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth yng Nghymru
Cymorth os ydych chi ar y sbectrwm.

Hafan Cymru
Helpu pobl i fyw’n dda.

Age Cymru
Cefnogaeth i’r henoed.

Crimestoppers
Elusen genedlaethol gyda llinell gymorth am ddim ar gyfer dweud am drosedd yn ddienw.

Tell MAMA
Prosiect cenedlaethol yn cefnogi dioddefwyr casineb gwrth-Fwslemaidd ac yn monitro digwyddiadau gwrth-Fwslemaidd.

Community Security Trust (CST)
Elusen sy’n gwarchod Iddewon Prydeinig rhag gwrth-semitiaeth a bygythiadau cysylltiol .

Galop
Elusen genedlaethol sy’n rhoi cyngor a chefnogaeth i aelodau’r gymuned LHDT.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld