Yn ôl i newyddion

Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfio Tai Cymdeithasol 2023

Yr wythnos hon (6-12 Tachwedd 2023) mae’n Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfio Tai Cymdeithasol. Mae hon yn wythnos bwysig i gymdeithasau tai ledled y wlad wrth i ni amlygu’r gwaith yr ydyn ni’n ei wneud i gadw trigolion yn ddiogel ac yn glyd yn eu cartrefi.

Ysgrifennwyd gan Will

07 Tach, 2023

Graffig o Wythnos Genedlaethol Diogelwch a Chydymffurfio Tai Cymdeithasol

Eleni, roedden ni eisiau cymryd y cyfle i’ch cyflwyno chi i staff anhygoel Melin sy’n gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gennym y safonau uchaf oll o ran diogelwch a chydymffurfio, yn ein cartrefi, ein cymdogaethau a’n gweithleoedd. Felly, dewch i ni gwrdd â’r tîm …

Llun o Ian Hall

Ian Hall, Pennaeth Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfio Corfforaethol:

- "Rwy’n rheoli tîm o weithwyr iechyd a diogelwch proffesiynol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch cartrefi Melin a sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Rydyn ni’n llwyddo i gadw’n sefydliad yn ddiogel ac yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio, ac rydw i wrth fy modd â’r heriau a’r dysgu cyson sy’n rhan o’r gwaith."

- "I fi, mae iechyd a diogelwch/cydymffurfio yn golygu cadw pobl a’r sefydliad yn ddiogel, a darparu lle diogel i fyw ac i weithio."

- “Petawn i wedi gallu chwarae rygbi neu sboncen yn broffesiynol i Gymru, yna byddwn i wedi bachu’r swydd berffaith, ond yn anffodus roedd gen i’r awydd i weithio ond nid y dalent. Rydw i’n dal i gystadlu yng nghystadleuaeth Sboncen Meistri Cymru, yn y gobaith o ennill rhyw ddiwrnod, a fy mwriad i yw ennill unwaith y bydd yr holl chwaraewyr gwell wedi ymddeol!”

Llun o Kirsty

Kirsty Crosby, Arweinydd Tîm Cydymffurfio:

- "Fi sy’n arwain y tîm cydymffurfio, a fy rôl i yw cynnal yr holl safonau a’u monitro, gan sicrhau bod popeth yn cyrraedd y safon. Mae’n amgylchedd sy’n symud yn gyflym ac rydw i’n mwynhau’r dysgu parhaus a’r gefnogaeth gan fy nghydweithwyr."

- "Mae iechyd a diogelwch/cydymffurfio yn golygu cynnal prosesau a systemau cadarn, a chydweithio o fewn Melin a gyda chontractwyr allanol i sicrhau diogelwch."

- "Ffaith ddifyr: roeddwn i eisiau bod yn gantores, ond rwy’n dal i fwynhau canu ambell i gân ar dop fy llais yn y car!"

Llun o Dan

Dan Edmunds, Arweinydd Tîm Cydymffurfio Technegol:

- "Mae fy ngwaith i’n golygu goruchwylio diogelwch nwy, rheoli Legionella, ac amrywiaeth o agweddau eraill ar gydymffurfio. Rydw i wrth fy modd yn cadw’r bobl sydd â chontract gyda ni yn ddiogel, ac mae’r gwaith yn amrywiol iawn."

- "Pan oeddwn i’n ifancach, roeddwn i eisiau bod yn beiriannydd sain recordio, a chefais fy ysbrydoli gan ymweliadau â Stiwdio Recordio Rockfield."

Llun o Kathryn

Kathryn Weed, Gweinyddydd Cydymffurfio:

- "Fel Gweinyddydd Cydymffurfio, mae pob diwrnod yn wahanol, ac rydw i’n dysgu drwy’r amser. Rydw i’n sicrhau bod systemau ar waith i ddiogelu llesiant y rheiny sydd â chontract gyda ni a phob un yma yn Melin."

- "Mewn bywyd arall, buaswn i wedi bod yn archwilydd meddygol/crwner neu’n gwnselydd."

Llun o Helen

Helen Thomas, Swyddog Cydymffurfio:

- "Mae fy ngwaith i’n golygu cynnal cydymffurfiaeth a sicrhau bod y rheiny sydd â chontract gyda ni yn ddiogel. Mae’n faes amrywiol sy’n newid drwy’r amser, ac rydw i wrth fy modd yn sicrhau bod ein cartrefi’n ddiogel ar gyfer ein trigolion."

- "Mewn bywyd arall, buaswn i wedi bod yn barafeddyg oherwydd y cyffro."

Llun o Mike

Michael Howells, Cynghorydd Iechyd a Diogelwch:

- "Rydw i’n gweithio fel Cynghorydd Iechyd a Diogelwch, ac yn canolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel ac yn iach wrth ddatblygu diwylliant cadarnhaol o iechyd a diogelwch. Rydw i wrth fy modd yn ymgysylltu â chydweithwyr ac yn datrys problemau."

- "I fi, mae iechyd a diogelwch/cydymffurfio yn golygu ychwanegu gwerth, hyrwyddo enw da a lleihau costau."

- "Ffaith ddifyr: certmon oeddwn i eisiau bod, yn dosbarthu cwrw, ond ffeindiais fy hun yn y diwydiant chwaraeon a hamdden."

Llun o Helen

Helen Minns, Cynghorydd Iechyd a Diogelwch:

- "Fi sy’n gyfrifol am sicrhau perfformiad y tîm, diogelwch staff, a thasgau amrywiol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Rydw i wrth fy modd â’r heriau a’r dysgu parhaus sy’n rhan o fy ngwaith."

- "Petawn i ddim yn gweithio yn y fan hon, fy mreuddwyd i fyddai cyflwyno sioe sgwrsio neu redeg lloches i anifeiliaid."

Llun o Sarah

Srah Williams, Cynghorydd Cydymffurfio:

- "Fel Cynghorydd Cydymffurfio, rwy’n goruchwylio’r broses o wasanaethu cyfarpar ac yn mwynhau rhyngweithio â chontractwyr a’r rheiny sydd â chontractau. Ystyr cydymffurfio yw dilyn polisïau a gweithdrefnau a gwneud pethau’n iawn."

- "Petawn i ddim yn gweithio yn fy rôl bresennol, buaswn i wedi hoffi bod yn wyddonydd fforensig."

Llun o Susan

Susan Soliman, Cynghorydd Cydymffurfio Nwy:

- "Mae fy ngwaith i’n heriol ac yn wahanol bob dydd, ac mae’n rhoi cyfle i mi ymgysylltu â thrigolion a gweld sut y gall Melin helpu."

- "Mae fy ngwaith yn golygu sicrhau diogelwch o ran nwy a chadw at reoliadau’r llywodraeth, er mwyn cadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi."

- "Pan oeddwn i’n ifancach, fy mreuddwyd oedd bod yn falerina, a llwyddais i wireddu’r freuddwyd honno i raddau trwy ddod yn folddawnswraig broffesiynol ac yn athrawes am 25 mlynedd."

Yn ôl i newyddion