Yn ôl i newyddion

Technoleg NexGen i wresogi

Mae Melin yn gweithio gyda thechnoleg newydd o'r enw NextGen...

Ysgrifennwyd gan Sam

09 Awst, 2023

Gweithwyr ffitio papur wal

Beth ydy NextGen?

Mae’n dechnoleg newydd yn seiliedig ar bapur wal sy’n cael ei gynhesu ac rydym yn ei dreialu. Mae wedi'i wneud o graphene ac mae'n un o'r mesurau rydym yn ei archwilio i ddarparu dewisiadau isel, fforddiadwy o ran CO2 yn hytrach na reiddiaduron a phympiau gwres i helpu i gadw ein trigolion yn gynnes. Mae'r system wedi cael ei phrofi a'i dilysu gan Brifysgol Abertawe.

Sut mae'n gweithio


Mae System Wresogi Isgoch Graphene NexGen, sy’n edrych ac yn teimlo’n union fel papur wal traddodiadol, yn gallu cael ei blygio i mewn i soced domestig. Mae wedi ei lenwi â phaneli solar a batri clyfar, sy’n golygu ei fod yn torri allyriadau i sero net wrth leihau costau tanwydd yn sylweddol. Mae’r dechnoleg sy’n cael ei osod ar waliau, nenfydau neu dan loriau, yn anweladwy ac mae’n cynnig dull arloesol o gynhesu ystafelloedd unigol yn gynt o lawer, felly’n rhoi cyfle i drigolion rheoli eu cyllidebau ynni yn fwy effeithlon.

Mae'r system, sy'n defnyddio cyfuniad o wres is-goch a darfudiad pell yn cymryd dau i dri diwrnod yn unig i'w osod ac mae'n llawer mwy cost-effeithiol o gymharu â phwmp gwres.


Ffitio papur wal
Gall papur wal graphene i wresogi cartrefi hyd yn oed gael ei osod ar nenfydau

Lle rydym wedi ei ddefnyddio

Dechreuom drwy dreialu system mewn ystafell yn ein swyddfeydd ac mewn fflat gwarchod wag ac yna roeddem yn medru dod o hyd i drigolyn sy’n talu costau ynni afresymol o ddrud, a oedd yn golygu ei fod yn awyddus iawn i rhoi cynnig ar gynnyrch NexGen yn ei gartref.

Y manteision

Dyma beth ddywedodd y trigolyn wrthym am y gwahaniaeth y mae papur wal NexGen wedi'i wneud iddo ef:

“Cysylltodd fy nghymdeithas tai â mi yn gynharach eleni [2022] i ofyn a fyddai gen i ddiddordeb mewn treialu system wresogi isgoch Nexgen. Ar ôl cael gaeaf erchyll y llynedd a defnyddio gwerth £15 y dydd ar gyfartaledd i gadw’r tŷ ar 17 gradd, bachais y cyfle ar unwaith!

“Cafodd ei osod ar ddiwedd mis Hydref/dechrau mis Tachwedd ac os ydw i'n onest, roeddwn i’n amheus! Rydym i gyd yn credu bod gwres yn codi, ond mae eu cynnyrch yn wahanol! Mae gen i gyfuniad o fatiau wal a nenfwd ac mae'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud yn anghredadwy.

“Ar gyfartaledd rwy'n defnyddio hanner y kWh o gymharu â'r llynedd a gallaf fynd ati i reoli pryd a lle mae angen y gwres arnaf drwy'r ap - mae’n cymryd llai na 10 munud i sylwi ar y gwahaniaeth yn y tymheredd! Nid oes angen i mi ei rhoi yn uwch na 19 gradd chwaith, am fod y gwres yn gynhesach o lawer o gymharu â gwres canolog arferol. Mae'n eich cynhesu chi a phopeth o'ch cwmpas ac mae'r gwres yn gyffredinol yn parhau llawer hirach. Hefyd, un fantais fawr i mi yw na allwch ei weld.

“Gellir ei beintio, ei bapuro a gallwch dal fynd ati i hongian lluniau! Ni allaf ddiolch digon i Nexgen. Maent wedi bod mor gefnogol pan oedd gennyf unrhyw gwestiynau, ac maent o ddifri wedi newid y ffordd y mae fy nghartref yn teimlo. Hefyd, maen nhw wedi fy achub rhag cael gaeaf arall o filiau erchyll yr oeddwn i'n ei chael hi'n anodd eu fforddio!”

Mae fy nghartref yn gynnes o hyd nawr, dim mwy o drafferth cynhesu ac mae’r gwahaniaeth yn y pris yn anghredadwy!

Ein trigolion Melin

Yn ôl i newyddion