Yn ôl i newyddion

Oes angen help arnoch chi i fynd ar-lein?

Oes angen help arnoch chi i fynd ar-lein?

Ysgrifennwyd gan Marcus

20 Hyd, 2017

Oes angen help arnoch chi i fynd ar-lein?
Mae sgiliau digidol mor bwysig heddiw mewn cymdeithas, ac rydym ni am eich helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg. Dyma rhai enghreifftiau o’r help sydd gyda ni ar gael:
  • Cyngor ar gysylltiad band-eang fforddiadwy;
  • Help i gael hyd i gyfarpar fforddiadwy o liniaduron wedi eu hadnewyddu i dabledi, a’r ffonau clyfar diweddaraf;
  • Cyngor ar hyfforddiant TG ar gyfer gwaith;
  • Cyngor ar firysau cyfrifiadurol a help pan fo pethau’n mynd o’u lle;
  • Help i astudio a dysgu o’ch cyfrifiadur gartref;
  • Cyngor ar lecynnau WiFi lleol.
Swnio’n dda? Gallwn ni helpu. Gall ein Swyddog Cynhwysiant Digidol Louise Kingdon eich helpu, rhowch alwad iddi ar 01495 745910 neu danfonwch e-bost ati.

Yn ôl i newyddion