Yn ôl i newyddion

Paula Kennedy yn cwrdd â gwirfoddolwyr ymroddedig

Ddydd Sul diwethaf, fe wnaeth Zest noddi menter Sunday Munch, i ddosbarthu 69 o fagiau papur brown wedi'u llenwi â brechdanau, creision, teisen, ffrwythau a diod. Byddwn yn noddi'r cinio eto ar 7 Mai os hoffai unrhyw un wirfoddoli.

Ysgrifennwyd gan Fiona

22 Chwef, 2017

Paula Kennedy yn cwrdd â gwirfoddolwyr ymroddedig
Un o alwadau cyhoeddus cyntaf Paula oedd cwrdd â Marc Hepton, Rheolwr Gweithrediadau yn Eden Gate a'i dîm o wirfoddolwyr. Mae ei dîm yn rhoi o'u hamser bob wythnos er mwyn sicrhau bod y ganolfan ar agor i ddarparu cyngor, cefnogaeth a diodydd poeth i bobl ddigartref yng Nghasnewydd.

Ddydd Sul diwethaf, fe wnaeth Zest noddi menter Sunday Munch, i ddosbarthu 69 o fagiau papur brown wedi'u llenwi â brechdanau, creision, teisen, ffrwythau a diod. Byddwn yn noddi'r cinio eto ar 7 Mai os hoffai unrhyw un wirfoddoli.

Rhoddodd staff eu hamser ar ddydd Sul, a chawsant fod y profiad yn un hynod o ostyngedig ond werth chweil. Synnwyd y tîm gan faint o de, coffi a siwgr a ddefnyddiwyd mewn 2 awr yn unig! Mae Eden Gate gwir angen cyflenwadau, felly os gallwch chi helpu drwy wirfoddoli neu roi lluniaeth, cysylltwch ag Eden Gate.

Dywedodd Marc Hepton, Rheolwr Gweithrediadau yn Eden Gate: "Ni allwn ddiolch digon i Gartrefi Melin. Mae noddi digwyddiadau pwysig fel Sunday Munch yn amhrisiadwy ac mae rhoddion o siocled a chacen bob amser yn taro'r nod ymhlith ein gwesteion! Mae llawer o'r hyn rydym yn ei wneud yn ymwneud â mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol, meithrin ymddiriedaeth a chwalu rhwystrau gyda'n gwesteion. Mae hyn cymaint yn haws pan fyddwn yn cael cefnogaeth gan sefydliadau fel Melin."

Mae Eden Gate hefyd yn codi arian i uwchraddio'u cerbyd lloches nos, a byddent yn croesawu unrhyw rodd waeth pa mor fach, felly beth am ymweld â'u tudalen Total Giving?

Meddai Paula Kennedy: "Mae hwn wedi bod yn gyflwyniad gwych i'r gwaith gwych yr ydym yn ei wneud ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at lywio'r sefydliad i'r fath lwyddiant parhaus. Mae dangos cefnogaeth i bobl fregus sy'n byw yn ein cymunedau yn uchel ar fy agenda felly pa ffordd well i ddechrau na thrwy gefnogi Eden Gate, yr elusen ddigartrefedd yng Nghasnewydd."

Yn ôl i newyddion