Yn ôl i newyddion

Pawen Lawen ar batrôl

Mae trigolion rhai o'n tai gwarchod wedi bod yn mwynhau ymweliadau gan Anifeiliaid Anwes Pawen Lawen fel cŵn Therapi yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Ysgrifennwyd gan Sam

10 Rhag, 2018

Pawen Lawen ar batrôl
Mae trigolion rhai o'n tai gwarchod wedi bod yn mwynhau ymweliadau gan Anifeiliaid Anwes Pawen Lawen fel cŵn Therapi yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Mae'r cyfeillion pedair coes yn ymweld â phobl sy'n byw yn ein tai gwarchod ar draws Torfaen Sir Fynwy, Casnewydd a Blaenau Gwent y mis hwn. Fe wnaeth y ci bach chwareus cyntaf ymweld â Victoria Court yn y Fenni ar 4 Rhagfyr, a chafodd y trigolion y cyfle i fwynhau mwytho Rudy'r Pwdl. Fe wnaeth y trwyn gwlyb a'r wyneb blewog ddod â gwen i wyneb pawb. Mae anifeiliaid Pets as Therapy yn cael eu defnyddio'n aml i ddod thawelwch ac ymdeimlad o gysur a dyna'n union y gwnaeth Rudy!

Meddai Ann Phillips: “Roeddwn arfer cadw anifeiliaid anwes; cŵn, cathod, ieir, hyd yn oed mochyn ar un adeg, felly roedd yr ymweliad gan y ci yn hyfryd. Rydw i’n gweld eisiau cael cwmni ci. Gallwch siarad â nhw a dydyn nhw ddim yn ateb nôl.”
Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin: “Gall tymor y Nadolig fod yn amser anodd iawn i rhai felly mae hwn yn ychwanegiad hyfryd i ddigwyddiadau cymdeithasol ein cynllun.”

Yn ôl i newyddion