Problemau Gwresogi – Rhestr Wirio
Things to do before you call.
Ysgrifennwyd gan Marcus
—17 Hyd, 2017
![Problemau Gwresogi – Rhestr Wirio](/assets/articles/_content800/image-2017-09-19.png)
Os oes gennych broblem gyda’r system wresogi yn eich cartref, ffoniwch ni ar 01495 745910.
Yr unig beth rydym yn gofyn i chi ei wneud cyn ffonio yw edrych ar ambell beth:
• Os oes gennych fesurydd rhagdalu, gwnewch yn siŵr bod gennych gredyd.
• Os ydych wedi ychwanegu at y mesurydd rhagdalu yn ddiweddar, edrychwch i weld os ydych wedi ei ailgychwyn er mwyn i’r credyd ymddangos.
Os nad yw’r un o’r ddau beth yma yn datrys y broblem:
• Edrychwch ar y pwysedd ar y boeler; dylai fod rhwng 1 a 2.
• Os nad yw rhwng 1 a 2, medrwn roi cyfarwyddiadau i chi ar sut i ailosod pwysedd y boeler.
• Os nad yw’n broblem pwysedd, ailosodwch y boeler a gweld os yw’n rhoi cod diffyg i chi.