Yn ôl i newyddion

Rhag inni Anghofio

Ydych chi'n gwybod beth yw 'bully beef'? Neu pwy oedd Bechgyn y Brylcreem? Na, doedden ni ddim yn gwybod chwaith, ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth trigolion St Mary's Court yng Nghasnewydd ymweld â Thŷ George Lansbury yng Nghwmbrân i glywed am fywyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf gan Bruce Kilshaw o Gymrodyr y Rhyfel Mawr (cangen Pont-y-pŵl).

Ysgrifennwyd gan Sam

29 Hyd, 2018

Rhag inni Anghofio
Ydych chi'n gwybod beth yw 'bully beef'? Neu pwy oedd Bechgyn y Brylcreem?
Na, doedden ni ddim yn gwybod chwaith, ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth trigolion St Mary's Court yng Nghasnewydd ymweld â Thŷ George Lansbury yng Nghwmbrân i glywed am fywyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf gan Bruce Kilshaw o Gymrodyr y Rhyfel Mawr (cangen Pont-y-pŵl). Mae'r Tîm Cymunedau wedi rhoi £150 i glwb y Cymrodyr i lwyfannu cyngerdd cadoediad i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.

Daeth Bruce ag arteffactau o'r rhyfel, gan gynnwys rhai bidogai erchyll yr olwg a'r botel hynaf o Saws HP yr ydym erioed wedi'i gweld. Soniodd am sut y byddai'r milwyr wedi byw yn y ffosydd yn bwyta cyfrannau bach iawn o 'bully beef' (corn bîff) a chracers wedi'u gwneud o fflŵr, dŵr a halen nes i'r llinellau cyflenwi agor, cyn iddynt dderbyn pethau blasus o'r cartref fel Saws HP a whisgi Johnny Walker. Cafodd y trigolion eu diddori gan yr holl hanesion a rhannodd rai eu profiadau milwrol eu hunain. Mae Kenneth Beattie o Dŷ George Lansbury yn 98 a gwasanaethodd yn y Llu Awyr, lle'r oedd y dynion â steil yn cael eu galw'n Bechgyn Brylcreem hefyd. Dywedodd: "Ni fyddem yn mwynhau'r rhyddid sydd gennym heddiw heb yr aberthau a wnaed gan y bobl ifanc sydd wedi ymladd drosom ni."

Yn ôl i newyddion