Yn ôl i newyddion

Rhowch wybod am eich atgyweiriad, y ffordd hawdd

Mae ein hap newydd yn ffordd hawdd ac effeithlon o roi gwybod am eich atgyweiriad

Ysgrifennwyd gan Sam

12 Meh, 2018

Rhowch wybod am eich atgyweiriad, y ffordd hawdd
Os ydych chi'n un o'n trigolion, gallwch roi gwybod am eich atgyweiriad trwy lawr lwytho ein hap newydd sbon ar eich ffôn clyfar. Mae "Snap it and Sent it" ar gael yn rhad ac am ddim i ddyfeisiau Apple ac Android ac mae'n ei gwneud hi'n hawdd rhoi gwybod am atgyweiriad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw tynnu llun o'r broblem (boed yn ddraen sydd wedi blocio neu ffenestr sydd wedi torri) ac ychwanegu disgrifiad cyflym. Yr hyn sydd hefyd yn wych yw y gallwch chi anfon eich lluniau unrhyw adeg, ddydd neu nos, felly does dim rhaid i chi aros tan fod y swyddfa ar agor. Felly peidiwch ag aros tan i rywbeth fynd o'i le, lawr lwythwch yr ap nawr fel ei fod gennych yn barod. Ewch i Google Play neu'r App Store, mynnwch yr ap ac ewch amdani.

Yn ôl i newyddion