Yn ôl i newyddion

Hwyl i'r teulu yr haf yma

Mae gwyliau haf yr ysgol yn adeg o gyffro a hwyl i deuluoedd ledled Cymru. Mae’n wych cael treulio amser gyda’n gilydd a chreu atgofion bythgofiadwy gyda'r plant, ond gall hwyl yr haf fynd yn ddrud cyn pen dim, gan ein gadael ni’n pryderu am arian.

Ysgrifennwyd gan Will

20 Gorff, 2023

1. Cynlluniwch a rhowch flaenoriaeth

Un o’r camau hanfodol ar gyfer arbed arian yn ystod gwyliau’r haf yw cynllunio. Eisteddwch gyda’ch teulu i drafod y pethau y byddai pawb yn dymuno gwneud. Marciwch y calendr gyda diwrnodau yr ydych wedi eu clustnodi ar gyfer gweithgareddau a rhai diwrnodau a fydd yn fwy tawel. Yn y ffordd yma, gallwch wasgaru eich gweithgareddau a gwneud i’ch arian fynd ymhellach dros y gwyliau.

2. Cofleidiwch natur ac ewch i’r awyr agored

Rydym yn ffodus yn ne Cymru bod gyda ni olygfeydd naturiol godidog, parciau a llwybrau cerdded. Gallwch drefnu picnic mewn parciau lleol neu gallwch fynd ymhellach ar lwybrau cerdded. Mae’r rhan fwyaf o fannau am ddim neu’n codi tâl dim ond am barcio. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigonedd o wybodaeth wych am fannau i gerdded ac i ymweld â nhw

3. Digwyddiadau cymunedol am ddim

Mae nifer o siroedd a threfi’n cynnal digwyddiadau cymunedol am ddim yn ystod gwyliau’r haf. Mae yna amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn y rhanbarth ac mae rhai o’r rhain isod. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref a grwpiau cymunedol i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal.

Blaenau Gwent | Sir Fynwy | Casnewydd | Torfaen | Powys

4. Cynigion bwyd

Mae yna nifer o gynigion gwych ar gael i helpu i gyfyngu ar gost bwyta allan dros yr haf. Mae gan wefan MoneySavingExpert Martin Lewis restr gyfredol o’r rhain. Serch hynny, bydd picnic yn fwy rhad na bwyta allan bob tro bron, felly paratowch o flaen llaw a gallech chi arbed cannoedd o bunnoedd dros gyfnod y gwyliau.

5. Cynigion atyniadau

Fel gyda’r cynigion bwyd, mae yna ddigon o gynigion gydag atyniadau dros yr haf wrth i fusnesau gystadlu am eich arian. Eto, mae gwefan MoneySavingExpert Martin Lewis yn cadw golwg ar beth sydd ar gael. Hefyd, mae Cadw, sy’n cynnal nifer o atyniadau hanesyddol Cymru hefyd yn cynnig bargeinion, gan gynnwys 2 am bris 1 wrth fynd i mewn pan ddangoswch chi ddangos eich tocyn trên mewn atyniad.

Cofiwch, os ydych yn derbyn rhai budd-daliadau, fel Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Bersonol, efallai bydd modd i chi gael mynediad am ddim i nifer o atyniadau. Os oes amheuaeth, holwch, oherwydd gallwch arbed arian ar gostau mynediad. Mae nifer o atyniadau’n derbyn llythyr dyfarniad budd-daliadau fel prawf.

6. Siaradwch â ni

Gall yr haf fod yn ddrud iawn i deuluoedd. Hyd yn oed os ydych chi’n dilyn rhai o’n cynghorion, gall cyllideb y teulu fod yn bwysau o hyd. Os byddwch chi mewn sefyllfa anodd, yna rydym am i chi gysylltu â ni. Mae tîm Cyngor Melin wrth law i helpu. Po fwyaf cyflym y byddwch yn cysylltu, po fwyaf cyflym y gallwn fod o gymorth.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld