Yn ôl i newyddion

Cefnogi Eden Gate

Heddiw, fe wnaeth Paula Kennedy, Prif Weithredwr ac aelodau ein Panel Trigolion gyflwyno siec o £3236.64 i Eden Gate.

Ysgrifennwyd gan Fiona

22 Ion, 2019

Cefnogi Eden Gate
Heddiw, fe wnaeth Paula Kennedy, Prif Weithredwr ac aelodau ein Panel Trigolion gyflwyno siec o £3236.64 i Eden Gate.

Fe wnaeth y staff drefnu brecwastau elusennol, rafflau, noson gwis a hyd yn oed talu arian i daflu sbyngau gwlyb at ein grŵp arweinyddiaeth i godi arian i'r elusen. Fe wnaeth y tîm hefyd gyfrannu duvets, bwyd, te, coffi, siocledi, a noddi tri chinio dydd Sul, gan ddarparu cinio i dros 120 o westeion sydd naill ai'n ddigartref neu'n byw mewn cartrefi sy'n eu rhoi mewn sefyllfa fregus. Ni allem fod wedi codi'r swm hwn heb gefnogaeth y staff a rhodd hael o £200 gan ein Panel Trigolion.

Meddai Katie Maddocks, Rheolwr Cynorthwyol yn Eden “Mae’r gefnogaeth a gawsom gan Melin wedi bod yn wych. Mae eu staff a’u Panel Trigolion wedi bod mor gefnogol, ni allwn ddiolch digon iddynt.”

Meddai Paula Kennedy, Prif Weithredwr; “Rydym yn falch iawn ein bod wedi dewis Eden Gate fel ein helusen y flwyddyn yn 2018. Mae eu hangerdd a’u prosiectau yn estyn allan i'r rheiny sydd wir angen y cymorth a byddwn yn parhau i ddatblygu ein partneriaeth yn 2019.”

Yn ôl i newyddion