Yn ôl i newyddion

Sut rydym yn gosod ein rhent

Pan fyddwn yn gosod rhent, rydym yn ystyried pethau fel lleoliad, math o eiddo a maint yr eiddo. Mae’r rhan fwyaf o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru wedi cael eu holi am eu barn ar sut mae landlordiaid yn gosod rhent. Yn ystod Gorffennaf ac Awst, byddwn yn ymgynghori gyda’n trigolion trwy arolwg byr. Bydd eich atebion yn ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn cynllunio ein rhent yn y dyfodol.

Ysgrifennwyd gan Valentino

30 Meh, 2020

Cartref Melin

Rydym yn adolygu ein polisi ar osod rhent ar hyn o bryd er mwyn gwneud yn siŵr bod rhent yn fforddiadwy ac yn rhoi gwerth am arian.

Pan fyddwn yn gosod rhent, rydym yn ystyried pethau fel lleoliad, math o eiddo a maint yr eiddo.

Mae’r rhan fwyaf o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru wedi cael eu holi am eu barn ar sut mae landlordiaid yn gosod rhent. Yn ystod Gorffennaf ac Awst, byddwn yn ymgynghori gyda’n trigolion trwy arolwg byr. Bydd eich atebion yn ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn cynllunio ein rhent yn y dyfodol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwn gysylltu â chi:

  • Os oes gennym gyfeiriad e-bost, byddwn yn danfon yr arolwg atoch chi i’w gwblhau a’i ddychwelyd atom ni.
    Bydd ein Swyddogion Cymunedol yn ffonio rhai o’n trigolion i fynd trwy’r arolwg gyda nhw.
  • Gallwch gwblhau’r arolwg trwy glicio ar y ddolen hon. Os hoffech roi eich barn naill ai dros y ffôn neu drwy’r post, ffoniwch 01495 745910 neu e-bostiwch communities@melinhomes.co.uk a bydd rhywun yn eich ateb.
  • Os byddwch yn cwblhau’r arolwg bydd cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill gwerth £250 o dalebau siopa (telerau ac amodau’n berthnasol). I fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth:
  1. Ni ddylai unrhyw gamau fod wedi eu cymryd yn erbyn yr unigolyn nac yn erbyn aelod o’r teulu am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  2. Ni ddylai fod yna ddyled rhent
  3. Ni ddylai fod yna fân ddyledion

Os hoffech wybod rhagor am yr arolwg gallwch edrych ar y cwestiynau cyffredin yma neu os gennych unrhyw gwestiynau gallwch ddanfon e-bost at communities@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion