Yn ôl i newyddion

Swyddog Melin yn ennill Gwobr Genedlaethol ‘Rising Star’

Mae ein Swyddog Cynhwysiant Digidol Louise Kingdon wedi ennill Gwobr Rising Star yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Tai Cymru yr wythnos diwethaf.

Ysgrifennwyd gan Marcus

03 Mai, 2016

Mae ein Swyddog Cynhwysiant Digidol Louise Kingdon wedi ennill Gwobr Rising Star yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Tai Cymru yr wythnos diwethaf. Cyflwynwyd y wobr iddi yng nghynhadledd TAI, lle llwyddodd Louise i guro dau enwebai arall ar y rhestr fer. Cyrhaeddodd Louise y rhestr fer i ddechrau ar ôl ei thraethawd ar bwysigrwydd amrywiaeth yn y gweithle. Yn y seremoni roedd yn rhaid iddi gyflwyno ei syniadau ynghylch yr hyn a ddywedodd yn ei thraethawd gerbron y mynychwyr lle aethpwyd ati i fwrw pleidleisiau terfynol i ddewis enillydd.

Meddai Louise; "Rwyf wrth fy modd mod i wedi ennill - roeddwn ar ben fy nigon pan gefais fy enwebu. Mae wedi bod yn wythnos wirioneddol bleserus yn blasu'r awyrgylch gyda'r enwebeion eraill. Mae wedi bod yn bleser dod i'w hadnabod. Rwyf hefyd yn teimlo'n wirioneddol ffodus i gael cydweithwyr cefnogol o'r fath sydd wedi bod yn gefn i mi bob cam o'r ffordd."

Dywedodd Mark Gardner, Prif Weithredwr Melin; "Mae Louise yn enillydd yn llygaid Melin waeth beth yw'r canlyniad - rwy'n cael gweld y gwaith gwych y mae'n ei wneud gyda chynhwysiant digidol i'n trigolion yn ddyddiol. Fodd bynnag, pan fyddaf yn gweld un o aelodau ein tîm yn ennill gwobr a gydnabyddir yn genedlaethol rwy'n hynod falch. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith i wneud yn siŵr ein bod yn weithle amrywiol, ond rwy'n credu bod traethawd a chyflwyniad cychwynnol Louise yn arloesol ac yn ffres, sy'n rhoi cyfle i ni ystyried syniadau newydd. Da iawn Louise. "

Yn ôl i newyddion