Polisi Cwcis This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.
Tudalen Breifatrwydd
Mae Cartrefi Melin bellach yn Hedyn

Rydym wedi uno â Chartrefi Dinas Casnewydd i greu cymdeithas newydd, a'i henw newydd yw Hedyn.

Ewch i hedyn.cymru i gael gwybod mwy

Yn ôl i newyddion

Taclo tipio yn Drovers Mews

Fel rhan o ymdrechion parhaus Melin i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau, roeddem yn falch o gwblhau rhaglen o welliannau i'n cymdogaeth, Drovers Mews yng Nghasnewydd, ddiwedd y llynedd.

Ysgrifennwyd gan Will

23 Ion, 2025

Four maintenance workers stood in front of a bin store

Yn anffodus, gall tipio anghyfreithlon, sbwriel a gwastraff peryglus (cyffuriau) fod yn llawer

rhy gyffredin yn ein cymunedau. Rydym yn gwybod y gall bod yn wyliadwrus a gweithio

mewn partneriaeth â'n trigolion a rhanddeiliaid cymunedol eraill fod yn allweddol i atal y

pethau hyn rhag digwydd. Ond weithiau rydym hefyd yn dysgu y gall dyluniad a

phensaernïaeth cymdogaeth ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl yn taflu gwastraff neu'n

ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol arall mewn ardal. Un gymdogaeth oedd yn dioddef

hyn oedd Drovers Mews yng Nghasnewydd.


Ar ôl derbyn cwynion dro ar ôl tro am dipio anghyfreithlon, cam-drin cyffuriau a chasgliadau

sbwriel coll yn y gymdogaeth, ymchwilion ni i'r hyn a allai fod yn achosi'r materion hyn.

Gwelon ni fod y ffordd y cafodd y storfeydd biniau eu hadeiladu wedi creu hafan ar gyfer

gweithgarwch gwrthgymdeithasol. Gwelsom hefyd fod cael llwyni yn agos at breswylfeydd yn

golygu bod anifeiliaid pla yn bresennol ger cartrefi. Gyda hyn mewn golwg, a gyda chaniatâd

ein trigolion, fe wnaethom nodi cynllun i ailgynllunio'r storfeydd biniau a chael gwared ar y

llwyni.

Safle biniau, llawn o sbwriel
Yr hen storfeydd biniau, llawn o sbwriel

Fe wnaethon ni agor y storfeydd biniau drwy ddymchwel y waliau o'u cwmpas. Roedd hyn

yn golygu llai o ardaloedd cudd ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynediad haws i

griwiau casglu sbwriel y cyngor. Fe wnaethom hefyd osod arwyddion i egluro beth oedd

pwrpas yr ardaloedd hyn. Fe wnaethon ni hefyd dynnu'r llwyni a oedd nid yn unig yn helpu i

leddfu'r problemau gyda llygod, ond hefyd wedi gwella golwg Drovers Mews ac yn caniatáu i

fwy o olau naturiol ddod i'r gymdogaeth.

A photo of a well organised and tidy bin store
Yn nawr yn edrych lot well

Cwblhawyd yr holl waith gan dimau Melin ac roeddem yn falch iawn o allu gwneud cymaint o

wahaniaeth i'r gymdogaeth. Roedd Jamie Coburn, Goruchwyliwr Prosiect Tîm Cynnal a

Chadw Adweithiol ac Eiddo Gwag Melin yn falch o'r gwaith a gwblhawyd gan ei dîm.

Dywedodd: "Roedd yn ymdrech tîm gwych ac roedd llawer o feddwl wedi mynd i mewn i'r

ffordd rydyn ni'n mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gwastraff, defnyddio cyffuriau ac

ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Drovers Mews. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth hyn

yn bosibl a'r trigolion am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad â'r gwaith."


Mae gweithgor sy'n cynnwys timau o bob rhan o Melin yn parhau i gwrdd bob mis i

ymchwilio a thrafod atebion ynghylch tipio anghyfreithlon a rheoli gwastraff yn ein

cymunedau. Bydd y maes gwaith pwysig hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i ni symud

ymlaen i'n sefydliad unedig newydd gyda Chartrefi Dinas Casnewydd.

Yn ôl i newyddion