Yn ôl i newyddion

Diwrnod golff elusennol llwyddiannus tî-hwnt

Roedd yr haul yn tywynnu ar gyfer ein Diwrnod Golff Elusennol yr wythnos ddiwethaf. Diolch o waelod calon i bob tîm a gymerodd ran. Diolch i haelioni pob un rydyn ni wedi codi £6500 a bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng ein Cronfa Jump2 cymunedol a’n helusen y flwyddyn sef ein Cronfa Cymorth i Breswylwyr.

Ysgrifennwyd gan Fiona

21 Medi, 2023

Winning team Evolve at our charity golf day

Fe fu 21 tîm yn cymryd rhan, cafwyd gwobrau raffl yn rhodd gan gwmnïau yr ydyn ni’n gweithio gyda nhw a gwelwyd haelioni a charedigrwydd y chwaraewyr yn nifer y tocynnau raffl a brynwyd ganddynt. Allwn ni ddim diolch digon i bawb; cafwyd diwrnod gwych ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel. Allwn ni ddim aros i wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf. Llongyfarchiadau i’r tîm buddugol, Evolve. Mae’n debyg eich bod chi’n dalentog 'Tî-hwnt’!

Diolch i’r holl gwmnïau ac unigolion a gefnogodd ein diwrnod golff

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld