Yn ôl i newyddion

Rydyn ni eisiau eich barn am ein gwasanaeth cynnal a chadw a thrwsio

Fe allech ennill taleb gwerth £50! Mae’n bwysig i ni ein bod yn holi’n trigolion am eu barn am ein gwasanaethau, gan mai chi yw’r bobl orau i ddweud beth yr ydyn ni’n ei wneud yn dda, neu ble y gallwn ni wella’r gwasanaethau yr ydyn ni’n eu cynnig.

Ysgrifennwyd gan Fiona

19 Medi, 2023

Darlun o dŷ gyda fan cynnal a chadw Melin wedi ei pharcio tu allan iddo

Rydyn ni eisiau eich barn am ein gwasanaeth cynnal a chadw, felly gofynnwn yn garedig i chi gymryd yr amser i rannu eich barn gyda ni, er mwyn ein helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Byddwn yn eich diweddaru am yr holl wybodaeth sy’n dod i law ac yn dweud wrthych sut yr ydyn ni’n mynd i ddefnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dim ond ambell gwestiwn sydd, ac mae yna bum ffordd o rannu’ch barn gyda ni.

Ffyrdd eraill o roi eich barn i ni

Os nad ydych yn dymuno ateb y cwestiynau ar-lein, gallwch:

  • Ateb y cwestiynau pan fyddwch chi’n ein ffonio ni
  • Siarad ag aelod o’n tîm Cynnal a Chadw yn y bore coffi ar eich safle chi. Siaradwch â Rheolwr y Cynllun i gael gwybod pryd y byddwn yn ymweld â’ch safle chi.
  • Siarad ag aelod o staff mewn digwyddiad cymunedol
  • Siarad ag aelod o staff pan fyddan nhw’n ymweld â’ch eiddo

Mae’r arolwg yn cau ar 30 Medi. Byddwn yn cysylltu ag enillydd y daleb gwerth £50 erbyn 6 Hydref 2023.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld