Yn ôl i newyddion

Mae’r ffordd yr ydych yn rhentu yn newid

Ysgrifennwyd gan Fiona

23 Chwef, 2022

Cotiau ar fachau cotiau gyda logo Welsh Gov arnynt

O 15 Gorffennaf 2022 bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn newid y ffordd y mae’r holl landlordiaid yng Nghymru yn rhentu eu heiddo.

Mae’r Ddeddf yn rhoi mwy o eglurder ar hawliau a chyfrifoldebau i’n cwsmeriaid ac i ni fel eich landlord, drwy gontractau ysgrifenedig.

Dyma rhai pwyntiau allweddol

  • Bydd Cartrefi Melin yn cael ei adnabod fel Landlord Cymunedol
  • Bydd tenantiaid yn cael eu galw'n Ddeiliad Contract
  • Bydd cytundebau tenantiaeth yn newid i Gontract Meddiannaeth
  • Bydd dau fath o gontract – Diogel a Safonol
  • Bydd y Ddeddf yn uno deddfwriaethau tai lluosog mewn un fframwaith cyfreithiol
  • Bydd y Ddeddf yn symleiddio ac yn gwella eich hawliau

I ddeiliaid contractau bydd hyn yn golygu:

  • Derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
  • Mwy o ddiogelwch rhag cael eich troi allan
  • Olyniaeth - gwell hawliau i drosglwyddo eich cartref
  • Trefniadau mwy hyblyg i gyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud yn haws ychwanegu neu ddileu eraill o gontract meddiannaeth

Sut gallwch chi helpu

Byddai o gymorth i ni pe bai chi’n gallu sicrhau bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf - eich e-bost, rhif ffôn a’r dull cysylltu sydd orau gennych ac enw a manylion cyswllt unrhyw un arall sy’n byw gyda chi. Gallwch ddiweddaru hwn trwy Eich Cyfrif ar ein gwefan neu anfon e-bost atom ar – cofiwch roi eich enw a chyfeiriad fel ein bod yn gwybod pwy ydych chi.

Ar wahân i hynny, nid oes angen gwneud unrhyw beth yr eiliad hon.

Mwy o wybodaeth

Gallwch hefyd roi clic ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi drafod y newidiadau gyda ni, cysylltwch.

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld