Yn ôl i newyddion

Trwy Lygad Aderyn

Mae Tîm Bod yn Wyrddach wedi cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni i 156 o eiddo yn Llanelli gyda gwariant o dros 2.9 miliwn. Ac eto, nid yw'r tîm yn rhoi'r gorau iddi yno! Gan weithio gydag Ysgol Gynradd Bigyn maent wedi hyfforddi 13 o hyrwyddwyr ynni gwyrdd iau, a chynnal cystadleuaeth gyda'r plant ysgol i gynllunio tŷ adar penigamp; gyda'r enillwyr yn gweld eu dyluniad yn cael ei droi'n campwaith go iawn.

Ysgrifennwyd gan Valentino

26 Mai, 2016

Meddai Elizabeth, blwyddyn 4 "Diolch yn fawr am ddewis fy nyluniad, ni allaf gredu ei fod wedi cael ei droi'n campwaith go iawn. Mae adar go iawn wedi bod yn dod i'r tai adar a bwyta'r bara yr oeddem wedi ei roi allan. "

Mynychodd Lee Waters AC sydd newydd ei ethol, i gyflwyno tystysgrifau i'r plant. Cafodd ei syfrdanu gan yr holl ymdrechion a'r gwaith a gwblhawyd drwy weithio ar y cyd drwy'r prosiect. Fe wnaeth y tîm hefyd gyfrannu offer garddio, hadau a phlanhigion mefus. Aeth Jistcourt contractwyr y fframwaith ar gyfer y cynllun ati i adeiladu pwll uchel, paentio gwaith celf o amgylch y maes chwarae a gosod eitemau awyr agored, gwaith nad oedd gan yr ysgol y cyllid i'w gwblhau.

Yn ôl i newyddion