Yn ôl i newyddion

Gweithio mewn partneriaeth i roi diwedd ar dipio anghyfreithlon yn Barracksfield, Casnewydd

Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, roedd yn fater o bawb at ei waith wrth i gwmni Melin ymuno â phartneriaid o Gyngor Dinas Casnewydd a Chanolfan Arddio a Thimau Cynnal a Chadw Morris’ of Usk, i fynd i’r afael ag achos difrifol o dipio anghyfreithlon yn Barracksfield, Casnewydd.

Ysgrifennwyd gan Will

24 Tach, 2022

Grwp o bobl sefyll nesaf i dractwr

Mae ardal Barracksfield wedi dod yn fagnet am dipio anghyfreithlon yn ddiweddar. Mae hyn, nid yn unig wedi difetha'r gymuned leol ac wedi cael effaith ar drigolion, ond mae hefyd wedi cael effaith niweidiol ar y bywyd gwyllt lleol. Mae cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd naturiol yn bwysig iawn i ni yma ym Melin, felly roeddem am wneud ein rhan i ddychwelyd yr ardal hon i'w chyflwr naturiol gwreiddiol.

Byddai wedi bod yn amhosib mynd ati i lanhau yn y fath ffordd heb gyfraniad aruthrol gan Ganolfan Arddio a Thimau Cynnal a Chadw Morris’ of Usk. Fe wnaethant ymrwymo tîm o 6 dyn a'u peiriannau John Deer trwm trwy gydol y cyfnod clirio. Gwelwyd gweithwyr a pheiriannau yn mynd i’r afael â’r dasg enfawr o lanhau’r cylfat sy’n rhedeg drwy ystâd Barracksfield, a oedd yn llawn gwastraff swmpus gan gynnwys soffas, byrddau, teiars, oergelloedd a sbwriel o gartrefi.

Cyrhaeddodd y tîm y safle gydag agwedd gadarnhaol a bwrw ati o ddifri i gwblhau’r holl dasgau anodd trwy gydol y diwrnod cyfan. Roedd eu hagweddau tuag at y gwaith yn rhyfeddol. Cawsom gymorth hefyd gan gwmni Defnyddiau Adeiladu Robert Price yng Nghwmbrân a gyfrannodd ac a ddosbarthodd bagiau 20 tunnell i’w llenwi.

Lucy Arnold-Matthews, Swyddog Bioamrywiaeth ac Addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r holl waith glanhau. Lucy hefyd yw'r Cydlynydd Partneriaeth Natur lleol, ac roedd ei phresenoldeb yn help aruthrol wrth sicrhau bod y cynefin lleol yn cael ei ddiogelu trwy gydol y cyfnod glanhau. Roedd Lucy ar y safle gyda'r timau o doriad gwawr tan yn hwyr yn y prynhawn ac rydym yn gwerthfawrogi ei help a’i harweiniad yn fawr iawn, i sicrhau ein bod wedi diogelu’r cynefin naturiol.

Tynnwyd pum llwyth trelar ac 16 bag 'tunnell' llawn gwastraff oedd wedi ei dipio’n anghyfreithlon o'r safle, a'u cludo i Wasanaethau Gwastraff Amgylcheddol GD er mwyn gwaredu arnynt yn ddiogel. Cam cychwyn y prosiect glanhau ar gyfer yr ardal yw hwn. Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn cefnogi’r grŵp gwirfoddoli lleol ‘The Tumps’ yn y dyfodol, wrth iddynt barhau i fynd ati i fwrw ymlaen â’r glanhau.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi cwblhau digwyddiadau ymgysylltu gyda’n trigolion yn yr ardal, er mwyn iddynt ddod i wybod pa mor ddifrifol yw’r mater erbyn hyn. Rydyn ni am weithio gyda thrigolion i helpu i ddod o hyd i’r bobl sy’n gyfrifol am y fath lanast hyll, yn cynnwys y posibilrwydd o gofnodi rhifau cofrestru cerbydau sy’n ymweld yn hwyr yn y nos ac yn tipio’u sbwriel. Drwy wneud hyn, byddwn yn atal yr ardal rhag ddenu tipio anghyfreithlon yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch i bawb am eu cyfraniadau ar ddiwrnod mor gadarnhaol, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r gymuned leol i gadw Barracksfield yn rhydd o wastraff, ac i helpu Cyngor Dinas Casnewydd yn ei ymgyrch i beidio â goddef unrhyw dipio anghyfreithlon.

Coedwig llawn o sbwriel
Cyn y gwaith glanhau...
Coedwig heb sbwriel
Ar ôl y gwaith glanhau...

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld