Yn ôl i newyddion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Mae Hydref 10fed yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd a thema eleni yw ‘Gwnewch iechyd a lles meddyliol i bawb yn flaenoriaeth fyd-eang’ Mae problemau iechyd meddwl yn bodoli yn ein bywydau, bywydau ein ffrindiau a’n teuluoedd, ein cymunedau a’n gweithleoedd, maen nhw’n effeithio arnom ni i gyd, ond gallwn ni i gyd chwarae rhan mewn atal afiechyd meddwl.

Ysgrifennwyd gan Sam

10 Hyd, 2022

Logo darluniadol o glôb hapus ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2022

Mae Melin wedi ymuno ag ymgais Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar y stigma o gylch problemau iechyd meddwl trwy ymuno â chynllun Amser i Newid Cymru.

Dyw llofnodi’r addewid ddim yn gam ysgafn i ni, mae hyn wedi ffurfio ein polisïau a’n prosesau ac wedi arwain at gynlluniau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ein staff.

Yn y fideo yma fe welwch chi sut, ers llofnodi’r addewid yn 2014, rydym wedi cydnabod ein bod ni’n gallu cael effaith gadarnhaol ar ein staff, a’r gwasanaethau y maen nhw’n eu rhoi i’n trigolion, trwy ganolbwyntio ar iechyd meddwl fel rhywbeth sy’n rhan o’n DNA. Mae staff yn gwybod ei fod yn iawn peidio bod yn iawn ond, yn fwy na hynny, maen nhw’n teimlo’n ddiogel wrth ddweud hynny, ac maen nhw’n gwybod bod yna adnoddau ar gael iddyn nhw a allai helpu.

Gwyliwch y fideo

Am gymorth a chefnogaeth, mae gan wefan Amser i Newid Cymru nifer o adnoddau defnyddiol - Time To Change Wales: Adnoddau

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn eu hadnabod angen cymorth gyda’u hiechyd meddwl, mae cefnogaeth ar gael. Dyma restr o asiantaethau a sefydliadau yn yr ardal a allai helpu;

Yn ôl i newyddion

Straeon eraill efallai yr hoffech eu gweld