Yn ôl i newyddion

Wythnos #iwill 2019

Dave Halford a ymunodd â’n Tîm Cynaliadwyedd yng Nghartrefi Melin yn ddiweddar. Mae ei stori yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill, sut mae hyn yn rhoi hwb i'ch sgiliau cyflogadwyedd, ac yn cynyddu eich lles.

Ysgrifennwyd gan Fiona

19 Tach, 2019

iwill-week-2019
Dave Halford a ymunodd â’n Tîm Cynaliadwyedd yng Nghartrefi Melin yn ddiweddar.

Mae ei stori yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i eraill, sut mae hyn yn rhoi hwb i'ch sgiliau cyflogadwyedd, ac yn cynyddu eich lles.

Roedd Dave yn blentyn gweithgar, bob amser eisiau gwneud y peth iawn. O oedran ifanc roedd yn gwybod ei fod eisiau bod yn athro. Trwy gydol yr amser y bu'n astudio ar gyfer ei TGAU, bu'n gweithio'n wirfoddol gyda phlant yn Nreigiau Gwent a gweithio tuag at gymwysterau ychwanegol.

Aeth i'r Brifysgol, gan astudio Mathemateg, ond ar ôl dwy flynedd canfu nad dyna oedd eisiau ei wneud. Treuliodd haf diwethaf yn chwilio am swydd, gan ddal ati i wirfoddoli ac ymuno â'n Prosiect Grymuso Ieuenctid, Yep.

Yn fuan ar ôl ymuno ag Yep daeth swydd yn ein Tîm Cynaliadwyedd a gwnaeth Dave gais amdani. Gwnaeth argraff fawr ar y tîm yn y cyfweliad, gwisgodd i greu argraff, roedd wedi ymchwilio i'n cwmni, ac roedd ei brofiad gwirfoddoli yn gwneud iddo sefyll allan; roeddem yn gwybod ei fod yn wych gyda phobl o'r amser yr oeddem wedi'i dreulio gydag ef yng nghyfarfodydd Yep.

Cynigiwyd swydd i Dave gyda'n Tîm Ysgolion. Chwe mis yn unig y mae wedi bod gyda ni ond mae eisoes yn gwneud cymaint o wahaniaeth, yn ysbrydoli disgyblion ac athrawon yn yr ysgolion rydyn ni'n gweithio gyda nhw ac yn dangos, gyda gwaith caled a natur benderfynol fe allwch ac y byddwch yn gwneud gwahaniaeth. Mae ei stori yn tynnu sylw at y ffaith bod yna lawer o lwybrau i fyd gwaith, ac nid oes rhaid i chi gael gradd i gael swydd rydych chi'n ei charu.

Mae Dave yn enghraifft wych o ba mor bwerus y gall gwirfoddoli fod, a pha mor bwysig yw pobl ifanc yn ein cymunedau.

Nid arweinwyr yfory yn unig yw pobl fel Dave, mae ganddyn nhw'r egni, y sgiliau a'r syniadau i newid cymdeithas heddiw.

Yn ôl i newyddion