Yn ôl i newyddion

Wythnos y Glas i ni!

Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ei hail flwyddyn ac yn mynd o nerth i nerth.

Ysgrifennwyd gan Fiona

25 Medi, 2017

Wythnos y Glas i ni!
Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ei hail flwyddyn ac yn mynd o nerth i nerth.

Gofynnwyd i ni’n ddiweddar i fynychu Wythnos y Glas i siarad gyda’r myfyrwyr newydd ynglŷn â phwysigrwydd datblygu sgiliau cyflogadwyedd, fel eich bod yn sefyll allan ac yn disgleirio wrth edrych am waith ar ddiwedd eich cwrs.

Siaradodd dwy o’n gweithwyr, Trish a Georgina, a ddechreuodd eu gyrfaoedd gyda Melin fel gwirfoddolwyr, am eu profiadau a sut arweiniodd hyn at waith a chyfleoedd cyffrous eraill. Roedd y myfyrwyr yn llawn edmygedd o’r sgyrsiau ac maen nhw wedi gofyn am weithdai pellach ar wirfoddoli a datblygu sgiliau newydd.

Dywedodd Gary Samuel, darlithydd yn y Flwyddyn Gyntaf “Mae heddiw wedi bod yn wych! Rwy’n falch gyda safbwyntiau gwahanol Trish a Georgina a sut yr oedden nhw’n atgyfnerthu ei gilydd . Dylai hyn ysbrydoli myfyrwyr i fod yn weithgar wrth lunio’u dyfodol yn ystod eu hamser gyda ni.

Yn ôl i newyddion