Yn ôl i newyddion

Y diweddaraf ar Ddiwygio Lles: Credyd Cynhwysol

Un taliad misol yw Credyd Cynhwysol (CC) ar gyfer pobl sy'n gweithio neu'n ddi-waith, sy'n uno rhai o'r budd-daliadau a chredydau treth y gallech fod yn eu derbyn nawr.

Ysgrifennwyd gan Marcus

23 Tach, 2016

Un taliad misol yw Credyd Cynhwysol (CC) ar gyfer pobl sy'n gweithio neu'n ddi-waith, sy'n uno rhai o'r budd-daliadau a chredydau treth y gallech fod yn eu derbyn nawr. Os ydych yn hawlio CC, yna cysylltwch â'n Tîm Cyngor Ariannol, sydd wrth law i'ch tywys trwy'r broses a helpu gyda chyllidebu a chyllid. E-bostiwch: moneyadvice@melinhomes.co.uk neu ffoniwch 01495 745910.

Ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, bydd Torfaen yn rhan o’r 'gwasanaeth digidol llawn' ar gyfer credyd cynhwysol. Mae hyn yn golygu na fydd trigolion yn Nhorfaen yn gallu hawlio'r budd-daliadau blaenorol a wnaethant eu hawlio ar un adeg, a bydd CC yn cymryd eu lle. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y gwasanaeth ar gael yn gyfan gwbl ar-lein; felly bydd hawlio, rheoli neu ddiweddaru hawliad ac unrhyw ddeunydd cyfathrebu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei wneud ar-lein.


Peidiwch â Chuddio Eich Pen yn y Tywod - siaradwch â ni, dydyn ni ddim yn brathu

Mae ein tîm Cyngor Ariannol yn gofyn i chi beidio â gadael i drafferthion ariannol bwyso'n drwm arnoch, maent yma i siarad, ac i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant.



Mae'r tîm yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt - maent am i chwi wybod 'nad ydym yn brathu'. Nid ydynt yno i farnu, maent yno i helpu gyda newidiadau diwygio lles, cyllidebu, budd-daliadau, grantiau a chymorth ariannol arall. Mae pob un o'r tîm yn ymgynghorwyr cyllid cymwysedig, a llynedd fe wnaethant roi dros £1.4m ynddo'i hun yn ôl ym mhocedi trigolion - anfonwch e-bost atynt neu rhowch alwad iddynt ar 01495 745910.

Yn ôl i newyddion