Yn ôl i newyddion

Y mis Rhagfyr hwn mae ein Tîm Cymunedau wedi bod yn brysur yn lledaenu hwyl y Nadolig.

Y mis Rhagfyr hwn mae ein Tîm Cymunedau wedi bod yn brysur yn lledaenu hwyl y Nadolig.

Ysgrifennwyd gan Sam

16 Rhag, 2019

Y mis Rhagfyr hwn mae ein Tîm Cymunedau wedi bod yn brysur yn lledaenu hwyl y Nadolig.
Y mis Rhagfyr hwn mae ein Tîm Cymunedau wedi bod yn brysur yn lledaenu hwyl y Nadolig. Buodd Siôn Corn a'i gorachod yn ymweld â naw cynllun lloches, rhai o'n hystadau a Chymorth i Fenywod Torfaen i ddosbarthu anrhegion; hyd yn oed yn y tywydd gwlyb rydyn ni wedi'i gael yn ddiweddar, fe wnaethant lwyddo i fynd allan a sicrhau bod ein trigolion yn cael ychydig o hwyl y Nadolig. Mae'r ymweliadau Siôn Corn yn ffordd mor wych o ddiweddu'r flwyddyn ac i ddangos i'r trigolion cymaint yr ydym yn meddwl ohonynt, o'r plant bach i'n trigolion hŷn - fe wnaethant fwynhau ein hymweliadau yn fawr iawn.
Cawsant amser heb ei ail a dyna oedd yr achos i'n trigolion hefyd:
Dywedodd un bachgen ifanc ei fod wedi rhedeg yr holl ffordd adre o’r ysgol oherwydd ei fod wedi clywed bod Siôn Corn yn galw heibio, “rhoddodd Siôn Corn focs o siocledi i mi a fy mrawd, diolch yn fawr iawn am ddod ag ef yma”.
Dywedodd un ddynes o Lavender Gardens (ein cynllun gofal ychwanegol yn y Fenni) “roedd clywed y plant yn canu’r caneuon Nadolig hyfryd wedi gwneud fy niwrnod, roedd yn wych”.
Cynorthwyodd cyfanswm o 24 aelod o staff ar yr ymweliadau Siôn Corn, gan neilltuo peth o'u hamser i ledaenu hwyl y Nadolig i'n trigolion. Diolch i'r holl aelodau staff sydd wedi helpu yn ystod yr ymweliadau i'r cynlluniau hyn, i'r 15 aelod o staff a dreuliodd eu hamser cinio yn lapio anrhegion, ac wrth gwrs diolch enfawr i'n Tîm Cymunedau gwych am fynd y tu hwnt i'r galw ar gyfer ein trigolion bob amser.
Nadolig Llawen bawb!

Yn ôl i newyddion