Yn ôl i newyddion

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ar ddechrau’r pandemig fis Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau i ddiogelu pobl rhag cael eu troi allan o’u cartrefi.

Ysgrifennwyd gan Sam

08 Meh, 2020

Melin logo. Rydyn ni yma i chi.

Ar ddechrau’r pandemig fis Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau i ddiogelu pobl rhag cael eu troi allan o’u cartrefi. Roedd y drefn yma i barhau tan Fehefin 25, ond mae bellach wedi ei hymestyn tan Awst 23.

Cymeron ni gam ychwanegol a phenderfynu peidio â danfon Hysbysiadau Ceisio Meddiant. Dyma’r cam cyntaf wrth fynd â rhywun i’r llys a gall arwain at droi allan yn y pen draw. Roedden ni’n credu y byddai hyn yn helpu’n trigolion i deimlo’n ddiogel heb fod yna bwysau ychwanegol ar adegau heriol fel y rhain.

Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif bach o’n trigolion. Mewn rhai achosion mae’r ymddygiad yma’n cael effaith andwyol iawn ar gymdogion cyfagos a’r gymuned ehangach. O ganlyniad, rydym yn ystyried ail-gyflwyno Hysbysiadau Ceisio Meddiant ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud pob dim y gallwn i gefnogi’n trigolion ac unrhyw un arall a all fod yn dioddef oherwydd ymddygiad gwael pob eraill.

I ddweud am ymddygiad gwrthgymdeithasol, defnyddiwch ein cyfleuster sgwrsio, neu, danfonwch e-bost at asb@melinhomes.co.uk

Yn ôl i newyddion