Yn ôl i newyddion

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Throsedd Casineb

Yn dilyn yr adroddiadau diweddar am y cynnydd mewn gwahaniaethu hiliol a throseddau casineb ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, hoffem eich sicrhau; ein preswylwyr, ein partneriaid a'n cymunedau, ein bod yma ym Melin yn cymryd o ddifri, unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau casineb.

Ysgrifennwyd gan Valentino

01 Gorff, 2016

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Throsedd Casineb
Yn dilyn yr adroddiadau diweddar am y cynnydd mewn gwahaniaethu hiliol a throseddau casineb ar ôl y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, hoffem eich sicrhau; ein preswylwyr, ein partneriaid a'n cymunedau, ein bod yma ym Melin yn cymryd o ddifri, unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau casineb.

Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartref, ac rydym yn ymfalchïo yn ein cymunedau cefnogol a chynhwysol. Os ydych yn poeni am unrhyw un o'r materion cyfredol sy'n ymwneud â gwahaniaethu hiliol, troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol rydym yma i helpu. Rhowch alwad i ni ar 01495 745910 neu cysylltwch â Heddlu Gwent i gael cyngor pellach am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael.

Yn ôl i newyddion