Yn ôl i newyddion

Ymfalchïo yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud

Ymfalchïo yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud

Ysgrifennwyd gan Marcus

05 Awst, 2019

Pride
Rydym yn sefydliad sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ac mae ein diwylliant yn un o gefnogaeth sy'n dathlu'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT +). Y mis hwn byddwn yn canolbwyntio ar bopeth sy'n ymwneud â Stonewall, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni. Mae Stonewall Cymru yn ymgyrchu dros gydraddoldeb pobl lesbiaidd, hoyw, deu a thraws. Ym mis Awst byddwn yn gweithio gyda Stonewall Cymru i bostio gwybodaeth ar ein sgriniau a'n cyfryngau cymdeithasol mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth.

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Stonewall UK yn 30 oed, maen nhw wedi dewis 30 o adegau allweddol yn y daith tuag at gydraddoldeb i bobl LHDT. Un o'r adegau hynny oedd y gusan gyntaf o'r un rhyw ar opera sebon yn y DU ym 1994. Allwch chi enwi'r opera sebon honno? Dewch o hyd iddi (os nad ydych chi'n gwybod eisoes) a gweld pa adegau eraill i gydraddoldeb sydd wedi'u dewis trwy ddarllen y rhestr gyfan ar wefan Stonewall.

I gael gwybod mwy ewch i wefan Stonewall.

Yn ôl i newyddion